Dyn wedi marw ar ôl i'w lori daro ceblau trydan ar fferm - cwest

Bu farw Andrew Winston Lloyd, 56, wedi digwyddiad ar fferm Tan y Dderwen ar 1 Mai
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn ar ôl i'w gerbyd daro ceblau trydan ar fferm yn Sir Conwy, mae cwest wedi clywed.
Roedd Andrew Winston Lloyd, 56, yn cludo cerrig mân i fferm Tan y Dderwen ym Metws-yn-Rhos adeg y digwyddiad ar 1 Mai.
Wrth agor y cwest yn Rhuthun, dywedodd y crwner John Gittins bod Mr Lloyd, o Fod Elian, Llanelian, yn cludo bwced o gerrig mân i'r fferm er mwyn adeiladu sied.
Ond fel yr oedd Mr Lloyd yn gyrru ar y fferm fe ddaeth y bwced ar ei lori i gysylltiad â cheblau trydan 120,000-folt a oedd yn hongian uwchben.
Dringodd Mr Lloyd, oedd yn rhedeg busnes teuluol, i lawr o'r lori ac mae'n debyg iddo gael sioc drydanol pan safodd ar ris metel y cab.
Cafodd parafeddygon eu galw i'r digwyddiad ond cyhoeddwyd fod Mr Lloyd wedi marw yn y fan a'r lle - nodwyd mai sioc drydanol oedd achos ei farwolaeth.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad a dywedodd y crwner y byddai ymholiadau helaeth yn cael eu cynnal.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai