Lluniau: Dydd Mawrth yn Sioe Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Sioe Môn yn un o wyliau amaethyddol mwyaf Cymru, gan ddenu degau o filoedd i Faes Sioe Mona dros ddau ddiwrnod.
Ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl eleni, 15 Awst, fe aeth y ffotograffydd Arwyn Roberts (Arwyn Herald) i'r sioe ar ran Cymru Fyw.

Anest Williams o Lithfaen gyda phencampwr y mochyn Cymreig, a phencampwr y diwrnod yn adran y moch

Gareth Thomas, Llysgennad y Sioe, yn barod am ddiwrnod o gystadlu

Cafodd Tom Wyn Davies o Lanfechell y wobr gyntaf gyda'i lo o dan wyth mis oed

Y Llywydd, Wyn Williams, a'i wraig, Gwen

Un o fugeiliaid ifanc y sioe oedd Cadi Wyn Williams o Gaerwen

Bu'r Gweinidog Amaeth, Lesley Griffiths, a'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ar faes y sioe heddiw

Ffermwyr ifanc yn cadw traddodiad; y gystadleuaeth gneifio yn yr hen ddull yn mynd rhagddi

Dyn tân bach newydd! Osian Roberts o Lannerch-y-medd gyda Gwyn Roberts o'r gwasanaeth tân

Dafydd Owen o Rowen gyda'i bencampwr Beltex

Seren a Gwion o Niwbwrch yn gwneud ffrindiau gyda chrwbanod anferthol

Roedd stondin orau y sioe eleni yn mynd i gwmni peiriannau amaethyddol Emyr Evans

Tom Rees o Nantwich gyda phencampwr yr adran gwartheg godro

Bu'n ddiwrnod da i Eirian Wyn Williams o Gaerwen. Ei merlen oedd pencampwr y merlod mynydd a gweundir

Edward Jones o Dywyn gyda phencampwr Cymreig y ceffylau gwedd

Jonathan Rees o Abergele gyda phencampwr y defaid

Llongyfarchiadau i Osian Roberts o Gwytheirn; daeth ei geffyl yn bencampwr y ceffylau hela