Swyddog heddlu'n gwadu creu lluniau anweddus o blant

Cafodd Patrick Higgins ei ryddhau ar fechnïaeth amodol hyd nes yr achos llawn yn ei erbyn y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog gyda Heddlu Gwent wedi pledio'n ddieuog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.
Fe ymddangosodd Patrick Higgins, 30 o Ystalyfera yng Nghwm Tawe, yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun.
Clywodd y gwrandawiad ei fod ym meddiant lluniau a fideos o blant dan 18 oed oedd yn lluniau Categori A, B neu C.
Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth dan amod i aros yn ei gartref rhwng 22:00 a 07:00.
Fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad arall o archwilio data'r heddlu heb awdurdod.
Mae disgwyl i'r achos llawn yn ei erbyn ddechrau fis Hydref 2026.