Pryder am les dyn o Landudno sydd o bosib yn Tenerife

GeralltFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw fod Gerallt yn Tenerife

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn bryderus am les dyn o Landudno sydd ddim wedi cael ei weld ers dechrau'r mis.

Cafodd Gerallt, 28, ei weld ddiwethaf yn gadael ei gartref yn y dref ar 4 Gorffennaf. Dyw'r heddlu ddim wedi rhannu ei gyfenw.

Maen nhw'n credu ei fod yn Tenerife, wedi i'r llu gael gwybodaeth ei fod wedi hedfan yno o Faes Awyr Manceinion ar 7 Gorffennaf.

Roedd ganddo hediad yn ôl i'r DU wedi'i archebu ar gyfer 12 Gorffennaf, ond doedd Gerallt ddim ar yr awyren honno.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod mewn cyswllt gyda'r awdurdodau yn Tenerife, gan gynnwys Llysgenhadaeth Prydain.

Maen nhw'n annog unrhyw un sy'n ymwybodol o ble mae Gerallt, neu Gerallt ei hun, i gysylltu â nhw neu ei deulu.