Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ym Mhowys

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y gyffordd yma, lle mae'r A44 yn cwrdd â'r B4362
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ym Mhowys.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ger y gyffordd rhwng yr A44 a'r B4362 ym mhentref Walton tua 17:00 ddydd Mawrth.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys cerddwr a cherbyd pick-up Toyota Hilux gwyn.
Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.