Dros 100 o swyddi Aston Martin mewn perygl ym Mro Morgannwg

Mae'r ffatri Aston Martin wedi'i lleoli yn Sain Tathan
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o swyddi yn y fantol mewn ffatri Aston Martin ym Mro Morgannwg, mae BBC Cymru ar ddeall.
Mae Aston Martin wedi rhybuddio y gallai swyddi gael eu torri yn Sain Tathan fel rhan o ymdrech y cwmni i ymateb i dollau'r Unol Daleithiau, a gostyngiad mewn galw o China.
Dywedodd y cwmni ceir mewn datganiad y byddai "trafodaethau addas" gyda'r undebau yn digwydd cyn unrhyw weithredu ar swyddi.
Disgrifiodd undeb Unite y sefyllfa fel un "ddinistriol", a dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn barod i weithio gyda'r cwmni" er mwyn "cynnig cefnogaeth a chymorth i weithwyr lle bo angen".

Mae hyd at 700 o bobl wedi cael eu cyflogi yn ne Cymru ers i'r cwmni agor eu ffatri ar gyn-wersyll milwrol yn 2019.
Dywedodd Aston Martin eu bod yn "cymryd camau i gryfhau eu safle mewn ymateb i heriau rhyngwladol, gan gynnwys effaith tollau'r UDA a gostyngiad mewn galw yn China".
Ychwanegodd y cwmni y gallai'r ymateb "effeithio ar swyddi contractwyr, swyddi cyfnod penodol a swyddi parhaol".
Mae BBC Cymru'n deall mai swyddi cynhyrchu yw'r mwyafrif o'r rolau sy'n cael eu hymgynghori arnynt, yn ogystal â nifer o swyddi contractwyr.

Mae hyd at 700 o bobl wedi cael eu cyflogi yn ne Cymru ers 2019
Fis Hydref fe gyhoeddodd y cwmni eu bod wedi lansio adolygiad brys o'u costau, gan nodi eu bod yn wynebu colli £110m oherwydd yr hinsawdd bresennol.
Daw'r newyddion diweddaraf yn dilyn penderfyniad y cwmni i dorri 170 o swyddi yn Sain Tathan ym mis Chwefror.
Dywedodd Andrew Pearson, Swyddog Rhanbarthol undeb Unite, fod hwn yn "newyddion dinistriol" i'r gweithlu yn Aston Martin.
"Bydd Unite yn dechrau ymgynghoriadau gyda'r cwmni cyn hir, gan sicrhau bod buddiannau ein haelodau yn cael eu blaenoriaethu.
"Mi fyddwn yn gwneud pob ymdrech posib i ymladd dros swyddi a lliniaru diswyddiadau."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y newyddion yn "bryder mawr i weithwyr ffatri Aston Martin yn Sain Tathan, eu teuluoedd a'r gymuned leol".
Ychwanegodd y datganiad eu bod "mewn cysylltiad uniongyrchol ag Aston Martin ac er bod rhaid aros am ganlyniad yr ymgynghoriad, rydym yn barod i weithio gyda'r cwmni a'n hasiantaethau partner i gynnig cefnogaeth a chymorth i weithwyr lle bo angen".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019

- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021

- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
