Aston Martin yn lansio car cyntaf ffatri Sain Tathan
- Cyhoeddwyd

Mae "bwrdd yngynghorol benywaidd" wedi chwarae rhan yn natblygiad yr SUV newydd
Mae Aston Martin wedi lansio'r car cyntaf i gael ei gynhyrchu yng Nghymru, gyda'r gobaith y bydd yn hwb wedi i'r cwmni gyhoeddi colledion o £13.5m yn y tri mis hyd at fis Medi.
Fe roddodd Llywodraeth Cymru £18.8m mewn grantiau er mwyn denu'r cwmni i Fro Morgannwg.
Bydd 750 o bobl yn cael eu cyflogi yn y pen draw yn Sain Tathan, a'r model DBX newydd yw'r cerbyd cyntaf i gael ei gynhyrchu yna.
Cafodd ei lansio'n swyddogol yn gynnar bore Mercher.
Gwireddu gweledigaeth
Dywed Aston Martin mai dyma "anterth rhaglen ddatblygu helaeth".
Mae'r DBX, medd y prif weithredwr Dr Andy Palmer, yn gwireddu'r weledigaeth i "ehangu portffolio'r cwmni, ac yn nodi dechrau gwaith cynhyrchu yn ail ffatri gynhyrchu Aston Martin".
Y gobaith yw y bydd y model newydd yn apelio at gwsmeriaid sydd ddim fel arfer yn prynu ceir Aston Martin.

Gall cwsmeriaid ofyn am nodweddion ychwanegol fel golchwr anifeiliaid anwes cludadwy a chynheswr i'r cist
Mae "bwrdd ymgynghorol benywaidd" wedi chwarae rhan yn natblygiad cerbyd cyntaf y cwmni i fod â phum sedd, a fydd yn costio £158,000.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Aston Martin eu bod yn benthyg $150m (£116.7m) i sefydlogi'i sefyllfa ariannol cyn y lansiad.
Dywedodd Dr Palmer wrth asiantaeth newyddion Reuters bod y DBX "yn fodel wirioneddol bwysig" gan fod y cwmni "i bob pwrpas yn cynnal cost ffatri gyfan heb fod yn derbyn unrhyw refeniw".
Yn gynharach ym mis Tachwedd, dywedodd Aston Martin bod gwerthiannau i werthwyr ceir wedi gostwng 16% i 1,497 o geir rhwng Gorffennaf a Medi gan fod llai o alw yn Ewrop ac Asia.

Mae gwerth cyfranddaliadau'r cwmni wedi simsanu ers cael eu cynnig ar y farchnad stoc fis Hydref y llynedd.
Roedd cymhorthdal Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar ddarparu swyddi, hyfforddi sgiliau ac ymchwil a datblygu.
Mae hefyd wedi rhoi gwarant 30 mlynedd i Aston Martin a fyddai'n golygu bod arian cyhoeddus yn talu rhent y safle petai'r cwmni'n gadael. Dydy gwerth y warant honno heb ei ddatgelu.
Mae Aston Martin wedi dweud yn y gorffennol mai Sain Tathan fydd "cartref trydaneiddio" y cwmni lle bydd yn cynhyrchu'r cerbydau Lagonda a RapidE newydd, ond bydd y rheiny'n cael eu cynhyrchu ar raddfa lai o lawer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018