Gwylanod yn cael eu denu i ffyrdd i'w hanafu'n fwriadol - elusen

Llun o wylan yn cario bag plastig ar ganol ffordd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae niferoedd y chwe phrif rywogaeth o wylanod yn gostwng yn y DU

  • Cyhoeddwyd

Mae gwylanod yn cael eu denu'n fwriadol i ganol ffyrdd gyda bwyd cyn cael eu lladd neu eu hanafu gan geir, yn ôl elusen.

Mae'r Foundation for Feathered Friends (FFF), sydd wedi'i leoli yng Nghaernarfon, yn dweud bod yr arfer yma wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

O dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae'n anghyfreithlon lladd neu anafu gwylanod yn fwriadol.

Mae cais wedi ei wneud am sylw gan Heddlu Gogledd Cymru.

Gwylanod yn llwgu

Dywedodd Denise Theophilus, 71, a sefydlodd FFF, ei bod wedi dechrau'r grŵp i "gydbwyso'r casineb" a welodd at wylanod pan symudodd i Gaernarfon.

"Dydw i ddim eisiau i wylanod feddwl bod pawb fel hyn," meddai.

Dywedodd Ms Theophilus fod gwylanod yn llwgu adeg yma'r flwyddyn ac yn ceisio bwydo eu cywion.

Felly, mi fyddan nhw'n chwilio am fwyd lle bynnag y gallant ddod o hyd iddo.

Dywedodd bod y grŵp wedi cael adroddiadau o oedolion a phlant yn taflu bwyd yn fwriadol i ganol ffyrdd mewn lleoliadau ar hyd arfordir gogledd Cymru gan gynnwys Prestatyn, Abergele a'r Rhyl.

"Dydw i ddim wedi gallu cadw fyny â'r holl negeseuon sy'n dod i mewn," meddai.

"Ges i wybod am blant yn taflu bwyd i ganol ffyrdd yn y Rhyl ac yn gwylio wrth i'r ceir bron â tharo'r gwylanod.

"Mae plant yn tyfu i fyny'n meddwl am wylanod fel llygod mawr sy'n hedfan a'i bod hi'n iawn gwneud unrhyw beth iddyn nhw."

Ychwanegodd fod gwirfoddolwr wedi achub aderyn ym Mhrestatyn ar ôl i ddyn daflu bwyd allan o'i gerbyd ar y ffordd a'r gwylan yna'n cael ei daro gan gar.

'Digalon nad oes neb yn gwneud dim'

Mae gan y pump o wirfoddolwyr sydd gan yr elusen yr offer angenrheidiol i ofalu am adar sydd wedi'u hanafu neu sy'n sâl, ond dywedodd Ms Theophilus nad oedd "unrhyw seibiant".

Ychwanegodd nad oedd dim yn cael ei wneud i orfodi'r gyfraith ar y mater, a dywedodd nad oes gan yr heddlu ddiddordeb.

"Mae'n wirioneddol ddigalon nad oes neb yn gwneud dim", meddai.

Mae cais wedi ei wneud am sylw gan Heddlu Gogledd Cymru.