Yr ynys yng Nghymru ble mae palod prin yn ffynnu

Mae ffigwr eleni o 43,626 o balod ar Ynys Sgomer yn torri record
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 44,000 o balod (puffins) wedi cael eu cofnodi oddi ar arfordir Sir Benfro.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, mae ffigwr eleni o 43,626 o balod ar Ynys Sgomer yn gosod record newydd, gyda phob un ohonynt wedi'u cyfri yn systematig gan eu staff.
Gyda phoblogaeth palod yn dirywio'n gyflym yn fyd eang, mae'r ymddiriedolaeth yn dweud fod y cynnydd ar eu gwarchodfa natur yn stori o "lwyddiant cadwraeth".
Ond mae rhybudd bod y palod yn parhau i fod dan fygythiad, ac felly rhaid parhau i'w hamddiffyn.
Yn cael ei adnabod fel lleoliad o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer adar môr, mae Ynys Sgomer wedi'i lleoli oddi ar arfordir Sir Benfro.
Bob blwyddyn, mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn mynd ati i gyfri'r adar môr, i fonitro'r boblogaeth o balod sy'n dychwelyd i'r ynys yn y gwanwyn i fridio.
Mae'r adar môr yn cael eu cyfri gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y tymor gan chwe aelod o staff.

Mae Rob Knott yn un o'r staff sy'n gwneud y gwaith cyfri
Dywedodd swyddog ymwelwyr yr ynys, Rob Knott, fod y cyfri "yn dipyn o waith!"
"Rydyn ni'n rhannu'r ynys yn adrannau ac rydyn ni'n mynd o gwmpas tua dwy awr cyn machlud yr haul pan mae'r mwyaf o balod ar y tir.
"Rydyn ni'n cael ein clicwyr allan ac rydyn ni'n cyfri yr holl balod ar y tir, yna'r môr a'r rhai yn yr awyr hefyd", meddai.
Cafodd y record ddiwethaf ei thorri yn 2023, pan gafodd 42,513 o balod eu cofnodi ar ac o gwmpas yr ynys.

Mae palod ar restr goch fyd-eang yr IUCN fel adar sydd mewn perygl o ddiflannu
"Rydym yn credu bod y niferoedd o fewn ychydig o gannoedd neu o bosib 1,000 o adar", meddai Rob, wrth ddisgrifio cywirdeb eu ffigyrau.
"Wrth gwrs, nid yw'r rhif yn mynd i fod yn berffaith gywir o ran y nifer o balod sydd yma, ond oherwydd ein bod ni'n gwneud y cyfri yn yr un ffordd bob blwyddyn, yn cofnodi'r adar yn yr un ffordd, mae'n cael ei gofnodi fel y nifer olaf o'r cyfrif hwnnw bob blwyddyn."
Pam fod palod yn ffynnu'n Sir Benfro?
Yn ôl Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, mae'r twf ym mhoblogaeth y Palod ar Ynys Sgomer "yn debygol o fod yn gysylltiedig â digonedd o fwyd yn yr ardal ehangach, sy'n golygu bod digon o bysgod i gywion yn arwain at lwyddiant brîdio uchel".
Maen nhw'n dweud bod absenoldeb llygod mawr ac ysglyfaethwyr eraill ar yr ynys "heb os" wedi cyfrannu at lwyddiant poblogaethau adar môr ar Sgomer hefyd.

Mae'r ffaith bod digon o fwyd ar gael yn rhan o lwyddiant yr adar ar Sgomer
Yn ôl Rob Knott mae pobl yn rhyfeddu gyda'r palod, gyda 25,000 o ymwelwyr yn dod i'r ynys bob blwyddyn.
Ond rhybuddiodd fod bygythiadau newydd yn wynebu adar môr, gan gynnwys ffliw adar a'r tywydd poeth morol diweddar a brofwyd mewn rhannau o'r DU.
"Rwy'n meddwl bod y gwaith monitro yn gwbl hanfodol, mae'n rhoi gwybod sut mae'r adar môr hyn yn gwneud, yn enwedig yn y rhan hon o Gymru ond hefyd ar raddfa ehangach o ran sut mae niferoedd y palod yn dod ymlaen ledled y DU.
"Mae'n ein helpu i edrych tuag at bolisi ar sut y gall y niferoedd hyn gynyddu yn y dyfodol.
"Maen nhw'n gwneud yn dda yma, ond gallwn edrych ar Sgomer fel enghraifft dda, mae llefydd arall lle mae'r niferoedd hyn yn mynd i lawr yn gyflym.
"Rydyn ni'n ofalus o optimistaidd ynglyn â'r niferoedd rydym yn eu gweld.
"Maen nhw'n adar hollol eiconig ac mae'r ffaith eu bod nhw ar y rhestr goch yn anghywir am gymaint o resymau, yn anad dim, oherwydd roedden nhw'n arfer ffynnu, felly rydyn ni'n gwneud yr hyn a allwn i geisio gwella'r niferoedd hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill