Prifysgol Bangor i 'adolygu ei phortffolio' wedi protestiadau

Protest Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn protestio am fisoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi y bydd yn “adolygu ei phortffolio buddsoddi” yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda myfyrwyr.

Daw’r penderfyniad yn dilyn misoedd o brotestio ar safle’r brifysgol gan fyfyrwyr sy’n eu cyhuddo o fod â chytundebau gyda chwmnïau sydd â chysylltiadau ag Israel.

Mae’r gwersyll o flaen canolfan gelfyddydau Pontio yn y ddinas wedi bod yno ers mis Mai, gyda’r myfyrwyr yn galw ar i’r ymladd yn y Dwyrain Canol ddod i ben.

Yn ôl y brifysgol mae ganddi “bolisi buddsoddi moesegol a chynaliadwy" a bod gofyn i "reolwyr buddsoddi wneud rhagor o ymchwil diwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau bod ein portffolio buddsoddi presennol yn wirioneddol yn cydymffurfio".

Yn ôl y myfyrwyr fe ddechreuon nhw ymgyrchu ar dir y brifysgol gan ddweud bod ganddyn nhw bryderon am fuddsoddiadau'r sefydliad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Luke O'Hagan eisiau gweld "mwy o atebolrwydd a thryloywder gan y bwrdd gweithredol"

“Rwy’n credu mai’r prif beth rydw i eisiau ei weld [gan y brifysgol] yw mwy o atebolrwydd a thryloywder gan y bwrdd gweithredol," meddai Luke O’Hagan, myfyriwr sydd wedi bod yn protestio ar safle'r brifysgol.

“[Rydyn ni eisiau] gwneud yn siŵr nad yw sefyllfa fel hon yn digwydd eto.

“Dydw i ddim eisiau parhau i weld y brifysgol yn rhoi'r bai ar y rheolwyr buddsoddi a gwrthod cymryd cyfrifoldeb drosto’i hun.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rae yn honni bod y brifysgol wedi bod yn "torri eu polisi eu hunain ers o leiaf blwyddyn"

Mae'r myfyrwyr yn dweud eu bod wedi bod yn trafod gyda'r brifysgol yn ddiweddar ond nad ydyn nhw'n argyhoeddedig bod digon yn cael ei wneud eto, ac maen nhw'n bwriadu parhau â'u protest weledol y tu allan i Pontio.

“Pe na fydden ni yma… fe fyddai cymaint o bobl ddim yn ymwybodol o’r sefyllfa ym Mhalestina”, meddai Rae, myfyriwr arall.

“Dwi'n meddwl y byddai neb yn gwybod dim am fuddsoddiadau Prifysgol Bangor na’r ffaith eu bod wedi bod yn torri eu polisi eu hunain ers o leiaf blwyddyn bellach."

Mae’r myfyrwyr wedi cael eu cefnogi gan aelodau o’r gymuned leol ym Mangor sydd hefyd wedi lleisio pryderon, fel y Parchedig Anna Jane Evans.

Disgrifiad o’r llun,

"Does neb eisiau gweld difenwi enw da Prifysgol Bangor," meddai'r Parchedig Anna Jane Evans

"Dwi'n gobeithio bod y ffaith bod pobl wedi codi llais yn ac wedi dangos cefnogaeth yn galluogi'r brifysgol i wneud beth sy'n iawn," meddai.

"Dan yr amodau sy'n wynebu prifysgolion rŵan, does neb eisiau gweld difenwi enw da Prifysgol Bangor.

"Ond os ydyn nhw'n buddsoddi ac yn hyrwyddo'r hiladdiad 'ma drwy fuddsoddiadau... fel bob corff arall sy'n gwneud yr un peth, mae angen dad-fuddsoddi ac arwain y ffordd."

'Presenoldeb y wersyllfa yn peri gofid'

Gofynnodd BBC Cymru i Brifysgol Bangor am ymateb i bryderon y myfyrwyr, ac fe gyfeirion nhw at ddatganiad ar eu gwefan.

Dywedodd y datganiad ar ran yr is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke fod y brifysgol yn "condemnio hiliaeth, gwrth-semitiaeth, Islamoffobia, gwahaniaethu, aflonyddu, sarhau neu ymddygiad troseddol".

"Mae nifer o staff a myfyrwyr wedi cysylltu â mi i ddweud bod rhai o’r deunyddiau sy’n cael eu harddangos yn y wersyllfa ac ar gyfryngau cymdeithasol yn achosi trallod iddynt.

"Rydym yn cymryd y cwynion hyn o ddifri gan ein bod yn gwybod bod presenoldeb y wersyllfa yn peri gofid i rai aelodau o’n cymuned."

Mae'n ychwanegu: "Mae gan Brifysgol Bangor Bolisi Buddsoddiadau moesegol a chynaliadwy.

"Mae ein polisi yn nodi ein bod yn disgwyl i lefel uchel o fesurau Amgylcheddol, Cynaliadwyedd a Llywodraethu (ACLl) fod yn eu lle ar gyfer unrhyw fuddsoddiad posibl.

"Mae Pwyllgor Buddsoddi Prifysgol Bangor wedi cyfarfod a chytuno i adolygu ei Bolisi Buddsoddi.

"Ymhellach, gofynnir i'n Rheolwyr Buddsoddi, UBS, i ymgymryd â diwydrwydd dyladwy pellach i sicrhau bod ein portffolio buddsoddi presennol yn wir yn cydymffurfio â'n Polisi Buddsoddi Moesegol."

Dywedodd y brifysgol hefyd y byddai'n parhau i weithio gyda'r undeb myfyrwyr a myfyrwyr i ateb pryderon pawb.

Pynciau cysylltiedig