Ceidwadwr yn dileu neges am 'gael gwared ar y Senedd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ailadrodd eu cefnogaeth ar gyfer datganoli ar ôl i un o'u haelodau yn Senedd Cymru rannu sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn trafod "cael gwared" ar y Senedd.
Daeth y sylwadau gan Joel James - sydd bellach wedi eu dileu - ar wefan X mewn ymateb i'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer ffiniau'r etholaethau fydd mewn lle'n etholiad 2026.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd Joel James wedi "adlewyrchu'n llawn" cefnogaeth y blaid ar gyfer datganoli.
Mae Mr James wedi cael cais i ymateb.
Yn ei neges, rhannodd yr aelod dros Ganol De Cymru ddolen at stori BBC Cymru am gynlluniau i roi enw Cymraeg yn unig ar fwyafrif o etholaethau'r Senedd.
Ychwanegodd y sylw: "Mwy a mwy o resymau i gael gwared ar y lle..."
Mae'r neges bellach wedi ei dileu ond nid dyma'r tro cyntaf i James feirniadu datganoli.
Cyn yr etholiad diwethaf i Senedd Cymru yn 2021, daeth i'r amlwg bod James wedi disgrifio datganoli fel "arbrawf sydd wedi methu" yn ystod proses dethol ymgeiswyr Ceidwadol ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru.
Ychwanegodd y byddai'n "ymgyrchu i roi diwedd ar ddatganoli yng Nghymru".
Mae'n bolisi swyddogol gan y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi datganoli ac mewn ymateb i sylw Mr James ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae Joel yn deall safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig sef ein bod ni'n cefnogi datganoli ac eisiau llywodraeth Geidwadol i ddefnyddio pwerau'r Senedd i drwsio Cymru.
"Chafodd hyn mo'i adlewyrchu'n llawn yn y neges ar X."
Mae safbwynt y Ceidwadwyr ar ddatganoli wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar ar ôl i gyn-arweinydd y grŵp ym Mae Caerdydd, Andrew RT Davies, rannu llun ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Awst o sioe amaethyddol Bro Morgannwg yn dangos ei fod yn gofyn i bobl oedden nhw'n credu y dylai'r Senedd gael ei diddymu.
Dywedodd ar y pryd ei fod yn "awyddus i glywed barn pobl".
Cafodd Davies ei olynu gan Millar yn gynharach y mis hwn.
Ddyddiau ar ôl cymryd yr awenau, dywedodd Millar bod y Ceidwadwyr Cymreig "o blaid Cymru ac o blaid datganoli".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Awst