Enwau Cymraeg yn unig i fwyafrif etholaethau'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Bydd trwch etholaethau newydd Senedd Cymru ag enw Cymraeg yn unig, o dan gynigion newydd gan y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau.
Dim ond pedair o'r 16 sedd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026 fydd ag enwau dwyieithog.
Mae angen y seddi mwy oherwydd bydd gan y Senedd system bleidleisio newydd i ethol 36 yn fwy o wleidyddion nag ar hyn o bryd.
Mae'r comisiwn wedi adolygu ei gynlluniau ar gyfer y seddi newydd, gydag ail ymgynghoriad yn cychwyn i glywed barn y cyhoedd.
Yn y cyfamser, dywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod defnyddio enwau uniaith Gymraeg yn "hollol anghywir" gan fod "Cymru yn ddwyieithog".
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Medi
Ymhlith y cynigion a gafodd ei gyhoeddi fis Medi diwethaf mae etholaethau mawrion, fel un sy'n ymestyn o Ben Llŷn i ffin Cymru â Lloegr.
Yn ogystal ag enwau newydd, mae cynigion ar gyfer seddi yng Nghaerdydd wedi'u newid, gyda'r comisiwn ar fin gwneud ei benderfyniad terfynol ar y map fis Mawrth nesaf.
Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o etholaethau San Steffan a'r Senedd yn ddwyieithog, gyda chwpl yn cyfeirio at eu henwau Cymraeg yn unig – Ynys Môn a Caerfyrddin.
Ond ar gyfer y Senedd newydd o 2026, bydd gan bob etholaeth yng Nghymru un enw uniaith Gymraeg, oni bai bod y comisiwn yn penderfynu y byddai gwneud hynny yn annerbyniol.
Bydd llai o etholaethau nag ar hyn o bryd, gyda'r comisiwn yn defnyddio'r 32 etholaeth San Steffan fel sail i lunio 16 o uwch-etholaethau, a fydd yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS) yr un.
Bydd system bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol yn eu hethol. Bydd hynny'n rhoi canlyniadau sy'n fras gymesur â'r pleidleisiau.
Yn eu hadroddiad, dywedodd y comisiwn fod enw Cymraeg yn dderbyniol i'w ddefnyddio yn Saesneg os yw'n debygol o fod yn adnabyddadwy i bobl ddi-Gymraeg.
Ond os yw'r enw'n cynnwys pwynt cwmpawd fel gogledd, de, gorllewin neu ddwyrain, fe fydd gan yr etholaethau hynny enwau dwyieithog.
Mae pedair sedd - yn Abertawe a Chaerdydd yn bennaf - wedi cael enwau dwyieithog am y rheswm hwnnw. Mae'r gweddill yn rhai Cymraeg yn unig.
Mae rhai, fel Ceredigion Penfro a Sir Gâr, wedi eu canfod yn dderbyniol gan eu bod yn cael eu defnyddio gan gynghorau yn yr ardal.
Cwtogi rhai o'r enwau
Mae rhai o'r enwau hefyd wedi'u cwtogi o'r cynlluniau gwreiddiol.
Yng ngogledd Cymru, bydd y sedd a gafodd ei chynnig yn wreiddiol fel Bangor, Aberconwy ac Ynys Môn yn cael ei henwi fel Bangor Conwy Môn;
Bydd Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam yn cael ei henwi Fflint Wrecsam yn lle hynny;
Bydd sedd fawr a gafodd ei henwi'n wreiddiol yn Nwyfor Meirionydd, Maldwyn a Glyndŵr, yn lle hynny yn cael ei henwi Gwynedd Maldwyn;
Bydd yr enw Brycheiniog, Maesyfed, Castell Nedd a Dwyrain Abertawe yn cael ei symleiddio i Dde Powys Tawe Nedd.
Bydd yr unig newid i ffurf y seddi newydd yn digwydd yng Nghaerdydd os bydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo, gyda'r awgrym bellach o efeillio Gogledd a Gorllewin Caerdydd, ac wedyn De Caerdydd a Phenarth â Dwyrain Caerdydd.
'Addas i rai rhannau o Gymru'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am enwau Cymraeg yn unig, dywedodd Andrew RT Davies AS, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod y "symudiad hwn yn hollol anghywir".
"Mae Cymru yn ddwyieithog, a bydd y symudiad hwn yn difreinio siaradwyr uniaith Saesneg," meddai.
"Er y gallai fod yn addas i rai rhannau o Gymru gael enwau uniaith Gymraeg, mae lleoedd fel Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn siaradwyr Saesneg gan fwyaf, a dylai enwau'r etholaethau adlewyrchu hyn."
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newid ac wedi galw ar y Comisiwn i fynd gam ymhellach a gwneud yr un fath gyda'r eithriadau sy'n parhau.
Dywedodd Siân Howys, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Y Gymraeg yw priod iaith Cymru, a dylen ni ymfalchïo ynddi, ei defnyddio a'i hyrwyddo fel bod gweld a chlywed geiriau ac enwau Cymraeg yn dod yn arferol.
"Byddwn ni'n parhau i bwyso yn ein hymateb i'r cynigion newydd am ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfer y pedwar eithriad i hyn - yng Nghaerdydd ac Abertawe - hefyd."