'Gallai gogledd Cymru ddod yn ganolfan werdd Ewrop'
- Cyhoeddwyd
Gallai gogledd Cymru arwain y ffordd o ran diwydiannau gwyrdd Ewrop, yn ôl pennaeth cwmni newydd sment carbon isel yn Wrecsam.
Mae'r Dr Liz Gilligan, prif weithredwr cwmni Material Evolution, yn credu bod lleoliad a gwreiddiau diwydiannol y Gogledd, yn golygu ei fod yn berffaith i "ddiwydiannau'r dyfodol gael eu hadeiladu gyda gwybodaeth am y gorffennol".
Yn ôl rhai arbenigwyr, mae addewid yn yr ardal, ond mae angen buddsoddiad sylweddol a phroses gynllunio gyflymach.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda phartneriaid yn y Gogledd i dynnu sylw at gryfderau'r rhanbarth.
O'u cartref newydd yn Wrecsam, bydd cwmni Material Evolution yn cynhyrchu sment gyda 85% yn llai o allyriadau carbon na'r rhan fwya' o gynnyrch traddodiadol.
Sylwedd cemegol yw sment, sydd gan amlaf yn cael ei ddefnyddio i greu concrid i bwrpas adeiladu. Ar ôl dŵr, concrid yw'r deunydd sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf yn y byd.
Mae'n ddeunydd sy'n cyfrannu'n fawr at newid hinsawdd oherwydd y galw amdano a'r tanwydd sy'n cael ei ddefnyddio i'w greu.
Yn ôl y felin drafod Chatham House, mae dros 4 biliwn tunnell o sment yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn - sy'n gyfrifol am tua 8% o allyriadau carbon y byd.
Ond mae cwmni Material Evolution yn honni bod eu sment yn garbon isel - gan nad yw'r broses o'i gynhyrchu yn defnyddio tanwydd yn yr un modd.
Mae'n defnyddio proses gemegol yn hytrach na chynhesu'r deunyddiau.
Ar y safle yn Llai, Wrecsam, mae yna fwriad i gynhyrchu 120,000 o dunelli o'u sment carbon-isel bob blwyddyn. Cafodd Wrecsam ei dewis yn bennaf fel canolbwynt cynhyrchu'r cwmni ym Mhrydain, oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth yn ôl Dr Gilligan:
"I fi, y peth cyffrous iawn am ogledd Cymru yw ei hanes diwydiannol, y diwydiannau trymion cyffrous sydd wastad wedi bod yno.
"Ac rwy'n credu bod hynny'n dod gyda diwylliant o ddeall technolegau... Mae angen hynny ar gyfer unrhywle i ddod yn ganolfan werdd - fel bod diwydiannau'r dyfodol yn cael eu hadeiladu gyda gwybodaeth am y gorffennol."
Ychwanegodd: "Rwy' wir yn credu y gallai gogledd Cymru ddod yn ganolfan werdd Ewrop.
"Rwy'n credu bod ganddo'r adnoddau, rwy'n credu bod y talent a'r wybodaeth yno."
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Hydref
I allu gwireddu unrhyw addewid sydd gan y Gogledd, mae angen newidiadau mawr, yn ôl Dr David Sprake o Brifysgol Wrecsam:
"Rwy'n credu bod 'na bosibilrwydd y gallai gogledd Cymru fod â'r cyfle i ddod yn ganolfan carbon-isel ar gyfer Ewrop gyfan, ond ry'n ni angen i lawer iawn o waith i wneud hynny i ddigwydd, er mwyn denu'r buddsoddiad.
"Ry'n ni angen system gynllunio mwy slick, a chyfleoedd ariannu i wneud hynny i ddigwydd."
Prosiectau gwyrdd y Gogledd
Y llynedd, cafodd cynlluniau ar gyfer fferm wynt ar y môr, Awel y Môr, eu cymeradwyo gan lywodraeth Prydain. Yn ôl y datblygwr, gallai gynhyrchu digon o ynni ar gyfer 500,000 o gartrefi. Bydd i'r gorllewin o gynllun Gwynt y Môr oddi ar arfordir sir Ddinbych.
Mae cwmni sment Heidelberg yn bwriadu creu canolfan dal a storio carbon gwerth £400m ar eu safle yn Padeswood, Sir y Fflint. Mae'n nhw'n gobeithio y bydd modd storio 800,000 o dunelli o garbon deiocsid dan wely'r môr bob blwyddyn.
Mae cwmni Eren Holding o Dwrci wrthi'n trawsnewid hen felin bapur Shotton yn sir y Fflint, yn safle cynhyrchu cardfwrdd a hancesi papur a phrosesu gwastraff gwerth £1bn.
"Ynys ynni" yw'r enw sy'n cael ei hyrwyddo gan gyngor Ynys Môn. Mae dwy fferm solar yno, yn ogystal â chynllun Maen Hir Lightsource bp, fyddai faint 1,7000 o gaeau pêl-droed pe bai'n cael caniatâd. Fe fyddai bum gwaith yn fwy na fferm solar fwyaf Prydain - ond mae'n gynllun dadleol a gwrthwynebiad chwyrn yn lleol.
Mae gwarchod swyddi presennol yr un mor bwysig â hyrwyddo technoleg newydd i Gyngor Busnes Gogledd Cymru.
Yn ôl Ashley Rogers, y prif weithredwr, mae "potensial gwych" gan y gogledd i arwain y ffordd ar ynni gwyrdd. Ond mae dadgarboneiddio diwydiannau hefyd yn hanfodol meddai:
"Un enghraifft yw'r sector gweithgynhyrchu, ble mae dros 40,000 o swyddi yn y rhanbarth, sector sydd rhyw 24% o'r economi.
"Mae allforio nwyddau o Sir y Fflint a Wrecsam yn unig werth ymhell dros £5bn y flwyddyn. Ry'n ni'n llwyddo'n well na'r disgwyl ar raddfa fyd-eang.
"Mae'n rhaid cydbwyso felly rhwng creu swyddi a chynlluniau 'gwyrdd' newydd, gyda gwarchod a dadgarboneiddio ein swyddi a busnesau presennol."
Mae'r corff Sero Net Diwydiant Cymru, sydd yn ceisio helpu busnesau i gyflawni targedau net sero, yn gweithio gyda safleoedd diwydiannol yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Ben Burggraaf, yw prif weithredwr y corff nid-er-elw:
"Mae gan Gymru seiliau diwydiannol cadarn o gwmpas diwydiannau allweddol - yn enwedig yng ngogledd Cymru: cynhyrchu ynni, prosesu nwy, cynhyrchu dur, a diwydiannau eraill cysylltiedig.
Mae Mr Burggraaf o'r farn bod yr ardal yn mewn safle da i "arwain" wrth i Brydain geisio newid sut ry'n ni'n defnyddio ac yn cynhyrchu ynni, ac mae'n credu bod y symud tuag at economi fwy gwyrdd yn mynd i ddiogelu swyddi, yn hytrach na'u peryglu:
"Fe allai hyn olygu ein bod ni'n stopio dad-ddiwydiannu ardaloedd fel gogledd-ddwyrain Cymru, ond hefyd de Cymru ac ardaloedd eraill ym Mhrydain sydd wedi, dros yr 20-30 mlynedd ddiwethaf, colli sawl diwydiant a swyddi sy'n talu'n dda'n diflannu ar draws Prydain."
'Creu miloedd o swyddi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cydweithio gyda sawl partner yn y gogledd i sicrhau eu bod nhw'n elwa o symud tuag at economi werdd:
"Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru, y parth buddsoddi a phorthladd rydd Ynys Môn gyda'i gilydd yn cynrychioli strategaeth gref i Ogledd Cymru, ac mae'n nhw'n ceisio denu dros £3.4 biliwn mewn buddsoddiad."
Byddai'r cynlluniau yma ychwanega'r Llywodraeth yn "creu miloedd o swyddi, datblygu sgiliau rhanbarthol a datblygu dyfodol bywiog, cynaliadwy a gwydn i ogledd Cymru."