Creu rhaglen deledu o fusnes fferm Eryri yn 'syrcas'

Nant GwynantFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm fynyddig Llyndy Isaf wedi'i lleoli yn Nant Gwynant, Eryri

  • Cyhoeddwyd

Mae creu cyfres deledu o amgylch tenantiaeth fferm fynydd yn Eryri wedi ei ddisgrifio fel "syrcas", wrth i rai ddweud y dylai pobl leol gael y cynnig cyntaf.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am ymgeiswyr i gymryd tenantiaeth 15 mlynedd ar eu fferm Llyndy Isaf, yn Nant Gwynant.

Bydd y tenant buddugol yn cael ei ffilmio ar gyfer sioe deledu i Channel 4, ond mae'r broses o ddewis tenant newydd wedi hollti barn.

Mae rhai yn pryderu nad oes cyfle i bobl leol ymgeisio am y denantiaeth yn gyntaf, ac eraill yn dweud y gallai'r cydweithio rhwng y rhaglen deledu a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol arwain at rai yn peidio ymgeisio.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y gallai "unrhyw un wneud cais ar gyfer ein heiddo ar osod yng Nghymru a thu hwnt" ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn ôl "oed, hil, rhywedd, cenedligrwydd nag iaith rhywun".

'Pryderus'

Mae fferm fynyddig Llyndy Isaf wedi'i lleoli yng nghanol Eryri.

Mae'r fferm 613 acer dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ers i'r elusen ei phrynu yn 2012 wedi apêl gyhoeddus.

Tan 2020, roedd y fferm yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, gan gynnig ysgoloriaethau i reoli'r busnes.

Ers hynny, mae wedi ei rheoli ar y cyd â fferm gyfagos yr Ymddiriedolaeth, Hafod y Llan, ac erbyn hyn, mae’r ymddiriedolaeth yn awyddus i osod y fferm - sy'n cynnwys tŷ ac ystod o adeiladau ar y tir - i denant newydd.

Ond mae llawer yn lleol wedi codi pryderon ynglŷn â'r penderfyniad i beidio agor y broses ymgeisio yn lleol gyntaf.

Mae June Jones yn gynghorydd dros ward Glaslyn ar Gyngor Gwynedd lle mae'r fferm wedi'i lleoli.

Dywedodd: "Mae cymuned Nant Gwynant yn gymuned amaethyddol rhan fwyaf ohoni beth bynnag, pentref bychan iawn ac yn lle poblogaidd iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd June Jones o'r farn bod dealltwriaeth o'r ardal amaethu yn hanfodol i denantiaid newydd

"Dwi ychydig bach yn bryderus... mi faswn i'n hoffi tasa nhw wedi trio yn gyntaf i weld os oes rhywun lleol isio trio am y ffarm, dim pawb sy'n licio bod ar y teledu.

"Dwi'n meddwl hefyd fod cael yr iaith Gymraeg yn hanfodol tydi, neu ddealltwriaeth o'r ardal amaethu yma.

"Mae'n rhaid i amaethwyr fod yn cydweithio - fferm fynydd ydi hi, felly mae'r wybodaeth o sut i amaethu ar y tir yma, cydweithio efo rhai eraill o gwmpas yn hanfodol, ac mi faswn i wedi disgwyl fod yr iaith Gymraeg yn hollol, hollol hanfodol yn fan hyn 'de."

'Syrcas'

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod Cymry cynhenid sy'n siarad Cymraeg yn rhan o fioamrywiaeth yr ardal, gan godi pryder am y penderfyniad hefyd.

Dywedodd Robat Idris, llefarydd ar ran y gymdeithas: "Maen nhw wedi troi'r holl broses o ymgeisio am y fferm yma yn syrcas ar gyfer rhaglen deledu ac unwaith eto yn dangos fel mae'r feddylfryd yma bod Eryri a Chymru, yn gyffredinol yn rhyw fath o chwaraele hyfryd ar gyfer pobl o'r tu allan - rhywle i edrych arno ar y bocs, i ddifyrru'r amser gyda'r nos ar y teledu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tŷ fferm ar gael fel rhan o denantiaeth Llyndy Isaf

Ond dadl Undeb Amaethwyr Cymru yw bod "unrhyw gyfle i godi proffil amaethyddiaeth yng Nghymru... i’w groesawu".

"Oherwydd natur y rhaglen, y diddordeb a’r pryderon sy’n cael eu codi gan ein haelodau a’r gymuned yn ehangach ynghylch y broses o ymgeisio am denantiaeth Llyndy Isaf, Nant Gwynant, rydym wedi gwneud cais i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am gyfarfod buan i drafod y broses ymgeisio a phynciau eraill o ddiddordeb", meddai llefarydd.

Daeth yr arfer o roi cyfle i ffermwyr ifanc reoli'r busnes i ben yn 2020, a hynny er mwyn "achub cronfeydd elusennol".

Caryl Hughes o Lanarmon Dyffryn Ceiriog ger Llangollen oedd y cyntaf i dderbyn yr ysgoloriaeth.

Dywedodd: "Ro'n i'n cael gwneud beth oeddwn i isio yno, nes i ddechra yna heb stoc, felly ges i budget gan yr Ymddiriedolaeth i fynd i brynu defed i'r lle, chydig o wartheg a rhoi handling system newydd yn y sied ac ati.

"Doedd gen i 'mond blwyddyn yno... y trafferth ydi efo fferm fynydd fel Llyndy, nes i ddim gweld ffrwyth fy llafur as such, ond erbyn i Teleri, yr ysgolhaig olaf sydd wedi bod yn Llyndy, mi nathon nhw extendio fo i dair blynedd, sydd yn neud lot mwy o sense a mwy o gyfle i rywun allu gweld prosiectau ar y fferm o'r dechre i'r diwedd."

Ffynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Matthew Rhys, a gefnogodd yr ymgyrch i brynu'r fferm gydag enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth, Caryl Hughes

Er hynny, dywedodd bod cynnig tenantiaeth 15 mlynedd yn "codi 'chydig o bryder".

"Mae'n siomedig wrach fod pobl ifanc sydd o gwmpas yn meddwl falla bod nhw methu ei 'neud o gan ei fod o'n cael ei agor fyny...

"Mae tenantiaeth 15 mlynedd yn hir ac mae angen dipyn o investment i wneud hyn weithio.

"Mae pobl Nant Gwynant yn grêt, ac mi fyddai o fudd gallu siarad Cymraeg i allu ffitio mewn efo'r ardal yn well."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan Edwards yn rheolwr cyffredinol dros Eryri a'r Gogarth i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mewn ymateb dywedodd Trystan Edwards, rheolwr cyffredinol dros Eryri a'r Gogarth i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bod 15 mlynedd yn "amser da i rywun gael eu traed danno, 'neud newidiadau a buddsoddi yn y cyfleoedd sydd yma".

"Beth sydd wedi dod yn sgil hynny wedyn ydi'r cyfle 'chydig yn wahanol, mae Channel 4 yn gwneud cyfres deledu... ac wedi penderfynu gwneud yr ail gyfres yn edrych ar sut yda ni'n gosod Llyndy Isaf, felly mae'n mynd i fod yn wahanol iawn... ac wrth gwrs mae'n gyfle euraid i roi darlun ar ychydig o ddiwylliant a'r iaith Gymraeg."

'Cyfle cyfartal' i bawb

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: Gall unrhyw un wneud cais ar gyfer ein heiddo ar osod yng Nghymru a thu hwnt, gan sicrhau cyfle cyfartal i bob ymgeisydd.

"Byddwn wedyn yn llunio rhestr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol nad ydynt yn gwahaniaethu yn ôl oed, hil, rhywedd, cenedligrwydd nag iaith rhywun.

"Ar gyfer tenantiaethau amaethyddol, bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld a disgwylir iddynt gyflwyno cynllun busnes.

"Yng Nghymru, mae iaith a diwylliant wrth wraidd y lleoedd dan ein gofal; maent hefyd yn rhan o hanes a chymeriad cymunedau lleol, a bydd hyn yn cael ei ystyried wrth gyfweld â darpar denantiaid ac adolygu cynlluniau busnes.

"Mae cymuned gref o siaradwyr Cymraeg yn Nant Gwynant ac felly rydym yn chwilio am rywun sydd wirioneddol yn dyheu am gael gweithio a byw mewn cymuned glos yng nghefn gwlad Cymru a chyfrannu at yr ardal leol.

"Ystyriwn hyn i fod yn gyfle gwych i godi proffil y Gymraeg a’n cymunedau amaethyddol gwledig yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig