Cymuned yn wynebu bod heb feddyg teulu o fis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Solfach, Sir Benfro, wedi galw ar y bwrdd iechyd lleol i gefnogi cynllun y gymuned i greu canolfan iechyd a gofal yn y feddygfa leol - gyda'r unig feddyg teulu yn y pentref yn rhoi'r gorau i'w gwaith ddiwedd mis Mawrth.
Mae yna 2,400 o gleifion yn perthyn i'r feddygfa.
Mae'r meddyg teulu presennol wedi penderfynu ildio'r cytundeb i ddarparu'r gwasanaeth yn lleol, ac mi fydd hi'n ymddeol yn y gwanwyn.
Mae cleifion oedrannus y pentref glan môr yn bryderus y byddan nhw yn gorfod teithio i naill ai Hwlffordd neu Abergwaun, pellter o 13 milltir ar hyd ffyrdd gwledig.
Cadarnhaodd y bwrdd iechyd nad yw meddygfa Tyddewi yn derbyn cleifion newydd ar hyn o bryd.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei bod yn casglu barn cleifion ar hyn o bryd, ac fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar 23 Chwefror.
Trigolion yn ymateb
Mae gweithgor lleol wedi cael ei sefydlu gan bobl leol i drafod dyfodol y feddygfa.
Ar y man lleiaf, mae'r gymuned yn galw ar y bwrdd iechyd i reoli'r feddygfa ac i sicrhau bod yna feddyg teulu yn gweithio oddi yno am o leiaf dwy flynedd. Yn yr hir dymor, maen nhw'n galw am sefydlu canolfan iechyd a gofal yn y feddygfa er mwyn ateb gofynion poblogaeth Solfach sydd yn heneiddio.
Mae'r gymuned eisoes yn rhedeg Solva Care, gwasanaeth gwirfoddol sydd yn rhoi cymorth i bobl oedrannus y cylch.Mae'r Dr Iain Robertson-Steel yn gyn-feddyg ymgynghorol a chyn-gyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg, ac mae'n byw yn Solfach. "Ry'n ni am ddarparu gofal iechyd, ar ffurf gwasanaeth meddyg teulu, ond mae angen hefyd gofalu am bobl oedranunus gyda dementia," meddai.
"Mae angen gofal cymdeithasol i gadw pobl allan o'r ysbyty. Mae ein model ni, Solva Care, yn cael ei gydnabod fel ffordd o leihau'r galw am ofal ysbyty, sydd yn dda i bawb."
'Clatshen fawr'
Mae Pearl Kaill, sy'n 74, yn un o gleifion y feddygfa ac yn byw yn lleol. "Bydde fe'n ergyd fawr [pe bai'r feddygfa yn cau yn gyfan gwbl]," meddai.
"Os chi'n edrych ar y demograffeg, mae lot o ni â gwallt gwyn! Ni'n mynd i'r doctor mwy na pan oedden ni yn ifanc.
"Mae rhai yn [gallu] gyrru, ond bydd e'n galed i rai i fynd yn bell i feddygfa arall. Ble bydden ni'n mynd?
"Maen nhw'n dweud bod Tyddewi yn llawn! Ac wedyn Abergwaun a Hwlffordd, wel, mae hynny hanner awr o Solfach i fynd fan'na.
"S'im bysus wastad yn gyfleus os chi'n gorfod bod yn y feddygfa ar ryw amser penodol.
"Bydde fe'n glatshen fawr a dwi'n gobeithio byddan nhw yn cadw fe i fynd mewn rhyw ffordd neu gilydd."
Mae Pearl yn croesawu'r awgrym o gyfuno gofal iechyd a chymdeithasol yn adeilad y feddygfa. "Mae Solva Care yn gweithio yn dda iawn," meddai. "Gallen nhw gael bob math o bethau i helpu pethau iechyd yn gyffredinol. Mae sawl stafell yn y feddygfa.
"'Ni gyd yn teimlo'n imbed o gryf ambwyti hyn. Mae'n debyg bod doctoriaid i gael, ond shwd ni'n denu nhw lawr i'r ardal, d'wi ddim yn gwybod."
Ar hyn o bryd, mae adeilad y feddygfa yn eiddo i'r meddyg teulu presennol sydd yn ymddeol yn y gwanwyn.
Mae ymgyrch pobl Solfach wedi cael cefnogaeth yr aelod lleol yn y Senedd, Paul Davies."Mae'n bwysig nawr bod ni'n clywed wrth y bwrdd iechyd lleol, bod nhw'n cyfathrebu yn glir gyda'r gymuned, ac yn gweithio gyda'r gymuned i sicrhau bod yna ateb tymor hir i sicrhau bod yna feddyg teulu yn aros yn Solfach," meddai.
"Dyna beth mae'r gymuned eisiau gweld."
'Dilyn esiampl yr Alban'
Yn ôl Dr Robertston-Steel, mae angen i Lywodraeth Cymru drin gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn wahanol."Fe ddylai Llywodraeth Cymru gydnabod bod gwasanaethau yn fwy drud yn yr ardaloedd hyn," meddai.
"Os ydych chi yn creu meddygfa, yna bydd llai o gleifion gyda chi. Mae'r ffi sydd yn cael ei dalu am bob claf felly yn broblem.
"Beth sydd angen i Lywodraeth Cymru wneud ydy mabwysiadu'r model Albanaidd, a rhoi cymhorthdal i gefnogi meddygfeydd gwledig.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru hyfforddi mwy o fyfyrwyr meddygol o Gymru yng Nghaerdydd a Bangor, a sicrhau bod nhw'n aros yng Nghymru i weithio i'r gwasanaeth iechyd."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n ystyried cefn gwlad wrth ddyrannu'r "swm cyffredinol o gyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu".
Yn ôl llefarydd, mater i'r bwrdd iechyd oedd sicrhau bod "gwasanaethau yn diwallu anghenion eu poblogaeth leol".
Ychwanegodd: "Mae GIG Cymru yn cynnig mwy o lefydd hyfforddi nag erioed o'r blaen, ac wedi cynyddu'r gyllideb addysg a hyfforddiant yng Nghymru am y nawfed flwyddyn yn olynol, gan gynnwys £1.68m yn ychwanegol i gefnogi niferoedd hyfforddi meddygon teulu craidd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022