Sgandal gwaed: Adroddiad 'yn waeth na be o'n i'n disgwyl'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes gafodd ei heintio gyda hepatitis C wedi iddi gael trallwysiad gwaed yn dweud bod yr adroddiad i'r sgandal gwaed heintiedig "yn waeth 'na be o'n i'n disgwyl" a'i fod "am gymryd dyddia' i'w brosesu".
Teithiodd Jane Jones o'r Groeslon ger Caernarfon i Lundain ddydd Llun gyda'i merch i glywed canlyniad yr ymchwiliad.
Dywedodd wrth raglen Dros Ginio: "Mae'n anodd credu be dwi 'di ddarllen bore 'ma a dim ond canran bach o'r report dwi 'di weld.
"Dwi methu siarad bron fod pobl yn gallu gwneud ffasiwn beth. Dim damwain oedd o, oedd nhw’n gwbod yn iawn fod y gwaed wedi'i heintio."
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad y gellid - ac y dylid - fod wedi ei osgoi'r sgandal.
- Cyhoeddwyd20 Mai
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
Mae'n cyhuddo meddygon, llywodraethau a'r Gwasanaeth Iechyd o geisio celu'r hyn ddigwyddodd.
Wrth ymateb, dywedodd ysgrifennydd iechyd Cymru, Eluned Morgan yr hoffai "ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y methiant ofnadwy hwn".
Wrth siarad ar lawr Tŷ'r Cyffredin brynhawn Llun, dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak fod "heddiw'n ddiwrnod o gywilydd i'r wladwriaeth Brydeinig".
Dywedodd bod yr adroddiad yn dangos "methiant moesol" gan y Gwasanaeth Iechyd, y gwasanaeth sifil a gan weinidogion mewn llywodraethau.
"Cafodd rhybuddion eu hanwybyddu dro ar ôl tro. Roedd gan bobl y pwerau i stopio hyn ond dro ar ôl tro, fe fethon nhw," meddai.
"Heddiw rydw i eisiau siarad yn uniongyrchol gyda dioddefwyr a'u teuluoedd - rhai ohonyn nhw sydd yma yn y galeri.
"Rydw i eisiau ymddiheuro o waelod calon.
"Byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd fel llywodraethau, gwasanaethau iechyd a'r gwasanaeth sifil i sicrhau na fydd unrhywbeth fel hyn yn digwydd eto."
Cadarnhaodd hefyd y bydd iawndal yn cael ei dalu i ddioddefwyr a'u teuluoedd ac y bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
'Pobl wedi eu gadael lawr'
Mae ymchwiliad cyhoeddus Syr Brian Langstaff wedi archwilio sut y cafodd cleifion gynnyrch gwaed eu heintio ar y Gwasanaeth Iechyd rhwng y 1970au a dechrau'r 1990au.
Cafodd cyfanswm o 30,000 o bobl eu heintio - yn eu plith 400 yng Nghymru.
Mae 300 o bobl wedi marw wedi iddyn nhw gael eu heintio gyda HIV neu Hepatitis C.
Mae'r ymchwiliad yn dweud bod dioddefwyr wedi eu gadael lawr "nid unwaith ond sawl gwaith" gan feddygon, y llywodraeth a chyrff, fel y Gwasanaeth Iechyd, oedd i fod i ddiogelu pobl.
Mae'r adroddiad yn nodi na chafodd diogelwch cleifion ei flaenoriaethu wrth wneud penderfyniadau a bod pobl wedi gorfod wynebu "risgiau annerbyniol".
Mae’r adroddiad yn gwneud sawl beirniadaeth sy’n benodol i Gymru gan gynnwys rôl hematolegydd blaenllaw o Gymru, yn ogystal â Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru.
Yn ôl yr adroddiad, systemau anaddas a di-drefn gafodd eu defnyddio gan wasanaethau gwaed Cymru a Lloegr arweiniodd, yn rhannol, at unigolion yn cael eu heintio ac o ganlyniad i rai yn marw.
Methodd Swyddfa Cymru â gweithredu’n annibynnol er mwyn ymateb i'r risg o hepatitis mewn gwaed a chynhyrchion gwaed.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 'na ddiffyg gweithredu ar Aids, er i Swyddfa Cymru, gan gynnwys Prif Swyddog Meddygol Cymru, gynnal trafodaethau ynglŷn â’r afiechyd gydag adran iechyd Llywodraeth y DU yn ystod yr 80au.
Mae'n nodi hefyd bod llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi parhau i adrodd ymateb yr adran iechyd yn Llundain – felly mae’r feirniadaeth o’r ddwy lywodraeth yn ddilys, meddai awdur yr adroddiad, Sir Brian Langstaff.
'Hoffwn ymddiheuro i bawb'
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Eluned Morgan mai "dyma'r sgandal gwaethaf o ran triniaethau gan y GIG".
"Er iddo ddigwydd cyn datganoli, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, hoffwn ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y methiant ofnadwy hwn.
"Hoffwn ddiolch i Syr Brian am ei amser a'r agwedd dosturiol a ddangosodd yn ystod yr ymchwiliad.
"Hoffwn hefyd nodi fy edmygedd o'r cryfder a ddangoswyd gan bawb a roddodd dystiolaeth am eu profiadau personol a'u teuluoedd. Bu llawer ohonynt yn ymgyrchu am ddegawdau am ymchwiliad cyhoeddus.
"Mae'n briodol bod eu lleisiau wedi cael eu clywed ac rwy'n gobeithio bod goroeswyr a'u teuluoedd yn teimlo bod yr ymchwiliad wedi ystyried eu tystiolaeth ac wedi rhoi atebion i'w cwestiynau a'u pryderon."
'Digolledu'
Mae'n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion yr adroddiad "yn ofalus ac yn fanwl".
"Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod dioddefwyr o Gymru a'u teuluoedd yn cael eu digolledu yn unol ag adroddiad interim yr ymchwiliad ar iawndal."
Mae Jane Jones yn teimlo y bydd hi'n cael cyfiawnder o'r diwedd.
"Mae o'n deud yn y report bod 'na gamau'n mynd ymlaen a'r sôn ydi fod prosecutio pwy bynnag sydd wedi gwneud y penderfyniadau 'ma o brynu’r gwaed 'ma.
"Mae o'n waeth 'na be o'n i'n disgwyl i ddeud y gwir... Mae 'na cyn gymaint yn yr adroddiad ag er mwyn i bob dim brosesu yn fy mhen i, mae o am gymryd dyddia'.
"Be' sy'n brifo fi mwy 'na ddim byd, oedd mam yn teimlo'n gryf iawn oedd hitha hefyd wedi cael ei heintio hefo hepatitis a dwi di colli mam ers bron i flwyddyn a 'di hi ddim yma i gael gweld yr adroddiad."
Ychwanegodd Jane ei fod wedi gwneud "ffrindiau oes" gyda phobl gafodd brofiadau tebyg gyda'r sgandal gwaed.
Un arall sydd wedi teithio i Lundain ydi Bronwen Cruddas o Gaerffili.
Collodd ei thad-cu yn 2001 wedi iddo yntau gael trallwysiad o waed wedi'i heintio.
Dywedodd: "Rhaid i'r llywodraeth gydnabod y pethau ofnadwy sydd wedi digwydd.
"Fe gollais i fy nhad-cu. Fe gollodd fy mam-gu ei gŵr. Ond mae hyn wedi digwydd i gymaint o bobl ar draws Cymru ac ar draws y byd.
"Ni wedi bod yn aros blynyddoedd i weld newid go iawn a gobeithio bydd hynny'n digwydd heddiw."
Mae'r adroddiad hefyd yn beirniadu dylanwad a gweithredoedd yr Athro Arthur Bloom, yr haematolegydd o Gaerdydd.
Mae'n dweud bod ei farn “wedi dylanwadu’n ormodol ar y ffordd roedd yr adran iechyd yn gweld Aids” a’r bygythiad i bobl â salwch gwaedu.
Bu’r Athro Bloom, a fu farw ym 1992, yn arwain Canolfan Haemoffilia Caerdydd ac roedd yn un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn y maes drwy’r 1970au a’r 1980au.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad ei fod yn “llunio barn y Gymdeithas Haemoffilia” a gyflwynodd sylwadau i’r adran yn eu tro.
“Roedd yna dderbyniad heb feirniadaeth i’w ffordd o feddwl a roedd yna fethiant i herio ei gyngor,” meddai'r adroddiad.
Kevin Slater, 20, o Gwmbrân oedd y person cyntaf â hemoffilia yn y DU i brofi’n bositif am HIV, a bu farw o Aids yn 1985.
Er hyn, ni chafodd wybod am ei ddeiagnosis am o leiaf ddeunaw mis ac mae cofnodion yn dangos yr argymhelliad i gadw’r wybodaeth oddi wrth y claf.
Yn ôl y dystiolaeth, roedd yr Athro Bloom yn ymwybodol o achos Mr Slater pan aeth i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym 1983.
Ond pan ysgrifennodd yr Athro Bloom yn ddiweddarach at bob cyfarwyddwr hemoffilia i gynnig cyngor, fe awgrymodd ei lythyr “y dylai triniaeth barhau fel o’r blaen er gwaetha'r risg o Aids a hepatitis".
Mae adroddiad yr ymchwiliad yn dweud bod “absenoldeb unrhyw gyngor ymarferol i leihau’r risg yn cynrychioli methiant mewn arweinyddiaeth a chyfle wedi’i golli”.
Mae yna ddarogan y gallai cyfanswm yr iawndal i'r holl ddioddefwyr ar draws y DU fod gymaint â £10bn.
Dywedodd Ms Morgan fod Llywodraeth y DU wedi derbyn cyfrifoldeb am y taliadau, gan fod y methiannau o fewn y GIG wedi digwydd cyn datganoli'r maes iechyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiolwyr o Gymru a’u teuluoedd yn cael “ad-daliad yn unol ag adroddiad interim yr ymchwiliad ar iawndal”.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sydd hefyd yn gadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar hemoffilia a gwaed heintiedig, fod angen cyfiawnder "yn gyflym".
Ychwanegodd: “Mae’r camweinyddiad cyfiawnder erchyll hwn wedi cymryd bywydau gormod ac wedi difetha cymaint mwy, ac am lawer rhy hir, mae lleisiau’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y sgandal hwn wedi’u tawelu.”
Wrth ymateb, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig "bod y drasiedi wedi effeithio ar filoedd o bobl a'u teuluoedd.
"Er bod yr ymchwiliad yma wedi tynnu sylw at gyfnod tywyll, mae'n bwysig bod mwy yn cael ei wneud i gefnogi a digolledu dioddefwyr sy'n dal yn sâl hyd heddiw."