Sgandal gwaed: 'Wnaeth Dad ddim dweud am ei HIV'
- Cyhoeddwyd
Yn y 1970au a'r 80au cafodd cannoedd o gleifion yng Nghymru, a miloedd ar draws y DU, eu heintio ar ôl iddyn nhw dderbyn gwaed a chynnyrch gwaed oedd ddim yn ddiogel.
Bu farw nifer o ganlyniad i afiechydon fel AIDS a Hepatitis C - yn dilyn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y "sgandal driniaeth waethaf erioed" yn hanes y gwasanaeth iechyd.
Ddydd Llun cafodd adroddiad terfynol ymchwiliad cyhoeddus i'r mater - y mwyaf erioed ym Mhrydain - ei gyhoeddi.
Yr amcangyfri' yw bod tua 400 o bobl yng Nghymru wedi'u heintio ond nid yw'r ffigwr hwnnw'n cynnwys pobl fu farw heb wybod eu bod wedi'u heffeithio.
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019
Ymhlith y dioddefwyr roedd pobl â haemoffilia dderbyniodd driniaethau wedi creu o waed oedd wedi ei heintio yn ogystal â phobol oedd wedi derbyn gwaed drwy drallwysiad - yn eu plith mamau gafodd waed ar ôl geni plant ac unigolion gafodd waed ar ôl cael damwain.
Yn ôl Haemophilia Wales roedd yr hyn ddigwyddodd yn "drasiedi enfawr" ac mae'r elusen yn galw am gyfiawnder i'r teuluoedd sydd wedi brwydro am ddegawdau i gael atebion.
"O'dd fy nhad yn obsessed am ffilmio pethau - hyd yn oed nôl yn y saithdegau o'dd gyda fe gamera Cine, wedyn symudodd e mlaen i VHS a Hi8."
Erbyn hyn, mae Owain Harris yn falch iawn fod ei dad, Norman, wedi bod mor eiddgar i gofnodi ei fywyd ar y camerâu amrywiol, gan fod edrych ar yr hen ffilmiau yn cynnig cyfle iddo ail-fyw atgofion melys o'i blentyndod.
"Fi yw hwnna, adeg Nadolig. Fi ffili cofio'r tŷ gan symudon ni o fan 'na pan o'n i'n ddyflwydd oed.
"Fy chwaer i sydd fan 'na ar y trampolîn."
Mae un ffilm benodol, sy'n dangos y teulu ar draeth yn ne orllewin Lloegr, yn dod â gwên fawr ar wyneb Owain.
"Drychwch ar y tryncs yna... dyma'r ffasiwn ar y pryd... gwylie yn Cernyw yw hwn yn y garafán. Roedd Dad yn teimlo na alle fe fynd dramor."
Y rheswm am hynny oedd fod gan Norman haemoffilia - cyflwr lle nad yw'r gwaed yn ceulo'n iawn.
Petai Norman yn cael unrhyw gnoc neu anaf gallai waedu’n ddifrifol.
"Fe gafodd fy nhad ei eni yn 1946 a cafodd e ddeiagnosis yn ystod ei ddyddie cyntaf - ond do'dd dim triniaeth o gwbwl yn y 40au," esboniodd Owain.
"Treuliodd e lot o'i blentyndod yn yr ysbyty i ffwrdd o'i rieni yn Nhreorci... o'dd e mewn a mas o gadeiri olwyn o hyd."
'Darganfyddon nhw yn yr 80au bod ganddo HIV'
Ond yn y 70au a'r 80au cynnar fe gafodd Norman driniaeth newydd.
Roedd y driniaeth yn cael ei hystyried yn chwyldroadol ac yn cynnig gobaith newydd i filoedd o bobl â hemoffilia.
Roedd y driniaeth yn cynnwys elfen o'r enw Ffactor VIII oedd yn cynyddu gallu'r gwaed i geulo ac yn caniatáu i ddioddefwyr drin eu hunain yn hytrach na gorfod mynd i'r ysbyty.
"Roedd [y driniaeth] yn galluogi fy nhad i ymdrin â unrhyw waedu ei hun... yn y cartref neu os oedden ni ar wyliau yn y garafán.
"Galle fe chwistrellu Factor VIII i mewn i'w wythiennau ei hun."
Ond heb yn wybod i nifer oedd yn ei dderbyn, roedd Ffactor VIII yn cael ei gynhyrchu drwy grynhoi gwaed o filoedd o roddwyr, gyda llawer yn cael ei fewnforio o'r UDA a gwledydd eraill.
Yr hyn ddaeth yn amlwg wedyn oedd bod y gwaed wedi cael ei gasglu o ffynonellau nad oedd yn ddiogel, gan gynnwys gan garcharorion gafodd eu talu.
Felly fe ddaeth y driniaeth oedd cynnig cymaint o obaith yn y lle cyntaf, yn hunllef i filoedd.
"Darganfyddodd fy nhad a fy mam yn ystod canol yr 80au bod e wedi dal Hepatitis C a bod ganddo fe HIV.
"Gafon nhw ddim llawer o esboniad beth fyddai hynny'n olygu i'w ddyfodol."
Adeg y diagnosis roedd Owain tua phedair oed.
Er i'w rieni benderfynu datgelu fod Norman â Hepatitis C, fe benderfynon nhw gadw'r HIV yn gyfrinach.
"Nath e ddim dweud wrtho fi nes blynyddoedd yn ddiweddarach pan oeddwn i'n 26 mlwydd oed bod HIV arno fe.
"O'n i'n grac i fod yn onest bod nhw wedi cadw fe'n ddirgel o fi a fy chwaer am flynyddoedd. O'n i'n grac iawn gyda fe am gwpwl o flynyddoedd.
"Wedyn ar ôl pwyllo a sylweddoli beth fydden nhw wedi mynd drwyddo yn yr 80au, dwi nawr yn deall.
"O'n nhw'n poeni am y stigma... poeni petase fi wedi dweud wrth rywun falle base fe wedi atal nhw rhag gwneud eu swyddi fel athrawon yn yr 80au.
"Falle byse'r rhieni ddim yn hapus bo nhw'n dysgu eu plant nhw.
"Falle oedden nhw'n gwneud hynny hefyd er mwyn diogelu ni hefyd [fel plant] rhag bwlio ac ati."
Yn y pendraw, fe roddodd Norman y gorau i'w swydd fel athro yn y 90au cynnar wrth i'w iechyd ddirywio'n raddol.
Ond er hynny roedd yn dal i fod yn weithgar iawn fel ymgyrchydd ar ran dioddefwyr, tan ei farwolaeth yn 2012 yn 65 oed.
Roedd hynny bum mlynedd cyn i Lywodraeth Theresa May gyhoeddi y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal.
Mae Owain, ei chwaer, a'i fam wedi rhoi tystiolaeth anhysbys i'r ymchwiliad am eu profiadau, ond dyma'r tro cyntaf i'r teulu rannu'r stori'n gyhoeddus.
"Mae'r holl broses o siarad am y peth wedi galluogi fi i deimlo rhywfaint o ryddhad a bod mwy a mwy o bobol bellach yn sylweddoli bod hyn wedi digwydd... mae'n broses cathartic.
"Ma' rhan ohona i am wneud siŵr bod camgymeriadau fel hyn ddim yn digwydd eto.
"Ma' rhan arall ohona i'n meddwl bod gwledydd eraill 'di delio gyda pethau'n wahanol.
"O'dd Ffrainc, er enghraifft, flynyddoedd yn ôl wedi danfon rhyw wleidydd i'r carchar am y peth.
"Ma' rhan ohona i'n meddwl byddai hynny'n neis i'w weld. Ond nid jyst un person sy'n gyfrifol am y saga yma sy' 'di mynd mlaen am ddegawde.
"Roedd hwn yn cover-up llwyr gan y sefydliad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021