Y meddyg sy'n asesu anafiadau i'r pen yng ngemau rygbi Cymru

Dr Gareth Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dr Gareth Lloyd Jones

  • Cyhoeddwyd

Efallai nad ydi Gareth Lloyd Jones yn enw adnabyddus i gefnogwyr rygbi, ond mae ganddo rôl bwysig sy’n gallu effeithio gemau Cymru a'r chwaraewyr ar y cae.

Y fo ydi’r meddyg sy’n asesu anafiadau pen mewn nifer o gemau rhyngwladol; pwnc sydd wedi bod yn y penawdau yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod gemau mae o a’i dîm yn cadw golwg am unrhyw chwaraewr sy’n cael cnoc i’r pen ac yn gofyn iddyn nhw ddod oddi ar y cae i gael profion os oes angen – a pheidio mynd yn ôl ymlaen os ydyn nhw wedi eu hanafu.

'Bod yn rhesymol a saff'

Ar ôl gyrfa fel meddyg teulu yng Nghwm Gwendraeth, bu Dr Gareth Lloyd Jones yn gweithio i dimau’r Gweilch a Chaerdydd a thîm Cymru dan 20, ac yn ddiweddar derbyniodd yr MBE am ei wasanaeth i feddygaeth o fewn y byd chwaraeon.

Mae ganddo ddiddordeb mewn rygbi ers dyddiau ei fagwraeth ym Mangor ac un fu’n cyd-chwarae gydag o yn nhîm yr ysgol ydi’r darlledwr Dewi Llwyd, fu’n ei holi ar raglen Radio Cymru Y Meddyg Rygbi am ei waith yn ystod gemau rhyngwladol Cymru.

“Dwi yn y twnnel efo sgrin o’m mlaen i ac iPad ac mae tua 20 o gamerâu efo angles gwahanol,” meddai’r Dr Gareth Lloyd Jones. “Wedyn mae ‘na technician gyda ni yn y ‘stafell feddygol a meddyg arall.

“Os ydyn nhw wedi gweld rhywbeth ar unrhyw angle ma’ nhw’n teimlo dylwn i gael lwc arno, maen nhw’n gyrru clip i fi yn y twnnel. Tra mae hynny’n digwydd dwi’n cadw llygad [ar y gêm] yn fyw - os yda chi’n canolbwyntio ar be’ sydd falle wedi digwydd ‘da chi’n colli allan be’ sydd actually yn digwydd yn ystod y gêm, felly mae lot o glipiau yn mynd a dod yn gyson.

“Mae’n rhaid i fi fod yn ofalus mod i ddim yn pigo pob peth. Mae ‘na bosibilrwydd i guriad i’r pen ddigwydd bob pum munud a ma’ rhaid bod yn rhesymol ond hefyd bod yn saff – neu mor saff â phosib mewn gêm fel hyn.”

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i rygbi ddod yn gêm fwy corfforol, mae anafiadau i ardal y pen wedi dod o dan y chwyddwydr

Mae cyfleusterau tebyg i adran brys ysbyty yng nghrombil Stadiwm y Principality, meddai, ac mae ganddo wybodaeth feddygol berthnasol am bob chwaraewr – er enghraifft eu pwysau, hanes anafiadau pen yn ystod eu gyrfa a sut maen nhw’n ymateb i wahanol brofion pan maen nhw’n holliach.

Unwaith mae’r tîm yn amau bod rhywun wedi cael anaf i’w pen, maen nhw’n gofyn i’r chwaraewr ddod oddi ar y cae i gael archwiliad yn y 'stafell feddygol – ac mae’n ras yn erbyn y cloc.

Deuddeg munud i asesu

“Mae dipyn o ffordd i gerdded [i’r 'stafell feddygol] a dim ond 12 munud sydd geno ni i gwblhau'r system o asesu,” meddai.

Immediate memory ydi’r gair official. Fydda ni’n rhoi 10 enw iddyn nhw ac ar ôl i fi orffen rhoi’r 10 enw fydda ni’n gofyn iddyn nhw ddweud faint o’r 10 ma’ nhw’n cofio. Fyddwn ni’n gwneud hynny dair gwaith ac wedyn y step nesa' ydi gofyn iddyn nhw gofio ffigurau a ma’ hwnnw’n cael ei gymharu efo be’ yda ni’n gwybod amdanyn nhw ar ddechrau’r season.

“Cymharu nhw yn erbyn eu hunain 'da ni’n neud dim yn erbyn ffigurau rhywun arall.

“Wedyn ‘da ni’n gwneud test i falansio... ar un goes, dwy goes, cau llygaid, ac wedyn mae ‘na gyfnod o bum munud yn gorfod mynd heibio i fi ofyn iddyn nhw o’r 10 gair nes i ofyn iddyn nhw’n gynharach faint maen nhw’n cofio nawr – be’ maen nhw’n ei alw’n delayed memory.

“Mae’n swnio’n weddol syml ond pan mae 'na gerdded o’r cae a gadael iddyn nhw wybod be’ ydi canlyniad y broses mae 12 munud yn mynd yn gyflym iawn.”

Ar ôl i’r 12 munud fynd heibio, chaiff y chwaraewr ddim mynd yn ôl ar y cae waeth beth ydi’r canlyniad y profion.

Y meddyg sy’n gwneud y rôl yma ar ochr y cae sydd efo’r penderfyniad terfynol ynglŷn ag a ddylai chwaraewr ail ymuno â'r gêm neu beidio – ond yn ôl Dr Gareth Lloyd Jones ar ôl gwneud y profion mae meddygon y timau fel arfer yn cytuno efo’r penderfyniad, er nad ydi’r chwaraewr bob tro’n rhy hapus.

Os ydi chwaraewr wedi cael anaf i’r pen mae’n rhaid cael profion ychwanegol yn y dyddiau wedi’r anaf, ac mae’n rhaid dod 'nôl i chwarae yn raddol, gyda 12 diwrnod o leiaf yn mynd heibio cyn cymryd rhan mewn gêm.

Achos llys ac ymchwil pellach

Mae sylw mawr wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â sut effaith mae cyfergyd ac ergydion cyson i’r pen yn ei gael ar iechyd.

Ar hyn o bryd mae nifer o gyn-chwaraewyr yn erlyn rhai o'r cyrff sy’n llywodraethu’r gamp - Rugby Football Union (RFU), Undeb Rygbi Cymru a World Rugby - am fethiant honedig i'w hamddiffyn rhag y risgiau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau i'r pen. Mae'r tri awdurdod wedi dweud eu bod bob tro yn ymdrechu i sicrhau diogelwch chwaraewyr ac yn dilyn y dystiolaeth wyddonol.

Yn ôl Dr Gareth Lloyd Jones fe fydd ymchwil pellach yn arwain at fwy o ddealltwriaeth sy’n siŵr o gael effaith ar y gêm, ond ar hyn o bryd mae o’r farn bod mwy o fanteision nag anfanteision i chwarae’r gamp.

Meddai: “Mae lot o bethau mwy positif efo exercise na risg o rywbeth difrifol ddigwydd mewn unrhyw gêm ond mae ‘na risg i bob peth ‘da ni’n wneud.

So cael y balans a dwi’n meddwl efo chwarae rygbi, mae’r balans yn tipio ychydig bach i un ffordd mwy nag oedd o ryw 10 mlynedd ond dwi’n hapus ac yn gyfforddus bod y balans o chwarae ychydig bach yn well na pheidio chwarae o gwbl.”

Pynciau cysylltiedig