Bron i 300 o chwaraewyr i erlyn cyrff llywodraethu rygbi

  • Cyhoeddwyd
Triniaeth i Rory Hutchinson o NorthamptonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl i ragor o chwaraewyr rygbi erlyn cyrff sy'n llywodraethu'r gamp yn sgil anafiadau pen y maen nhw wedi eu derbyn yn ystod y gêm, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Mae disgwyl i nifer yr erlynwyr a fu'n chwarae rygbi'r undeb godi i 300, gyda thraean ohonyn nhw'n dod o Gymru, medd cyfreithwyr.

Fis Gorffennaf y llynedd fe wnaeth 169 o gyn-chwaraewyr proffesiynol ddwyn achos yn yr Uchel Lys yn erbyn y Rugby Football Union (RFU), Undeb Rygbi Cymru a World Rugby.

Mae'r tri chorff sy'n llywodraethu'r gamp wedi dweud eu bod wastad yn ymdrechu i sicrhau diogelwch chwaraewyr.

Dywedodd cyfreithwyr y chwaraewyr y bydd yr honiadau newydd yn cael eu cyflwyno yr wythnos hon.

Mwy yn dwyn achos

Fe fydd cyfanswm y chwaraewyr a fydd yn gwneud honiadau - o rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair - felly yn fwy na 450.

Dywedodd Richard Boardman o gwmni cyfreithwyr Rylands Garth: "Ymhith y rhai newydd i ddwyn achos mae cyn-chwaraewyr a chwaraewyr amatur a chwaraeodd rygbi'r undeb yng Nghymru a Lloegr - gyda rhai ohonyn nhw yn chwarae yn y 1960au.

"Ry'n ni'n cytuno gydag arbenigwyr penodol sydd o'r farn y gall un o bob dau chwaraewr rygbi elît fod â rhyw lefel o gyflwr niwrolegol parhaol a gawsant o ganlyniad i chwarae'r gêm," meddai.

Ychwanegodd: "Mae nifer o chwaraewyr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi allan yna, ac ry'n ni wedi canfod eu bod yn cysylltu â ni wrth i gyn-chwaraewyr yn gyffredinol ddod yn fwy ymwybodol mai nam ar yr ymennydd, o bosib, sy'n gyfrifol am eu hamgylchiadau presennol."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ryan Jones yn rhan o dîm Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2005, 2008 a 2012.

Ymhlith y chwaraewyr sy'n erlyn y cyrff sy'n llywodraethu'r gamp mae cyn-gapten Cymru a'r Llewod, Ryan Jones, yn ogystal â'r Cymro Alix Popham a'r Sais Steve Thompson.

Dywedodd World Rugby eu bod yn ymwybodol o 269 cyn-chwaraewr yng Nghymru a Lloegr sy'n mynd i gyfraith - 203 yn gyn-chwaraewyr proffesiynol a 66 yn chwaraewyr amatur.

Barnwr ac nid y rheithgor fydd yn penderfynu ar yr achos - a hynny ar sail tystiolaeth a fydd yn cael ei chyflwyno i'r llys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alix Popham, sy'n 41, wedi cael diagnosis o ddementia cynnar

Mewn gwrandawiad ym Mehefin fe nododd y barnwr y dylai World Rugby ddarparu hen fersiynau o'r rheolau perthnasol i reoli cyfergyd, ond doedd dim angen datgelu mwy.

Gwrthododd barnwr yr achos, gan roi costau'r gwrandawiad i'r diffynyddion.

Pan fydd yr honiadau newydd yn cyrraedd y llys, bydd 115 o'r chwaraewyr sy'n gysylltiedig â nhw yn dod o Gymru, medd cyfreithwyr.

'Newid wedi Cwpan y Byd eleni'

Bydd y chwaraewyr presennol o Ewrop sy'n paratoi i fynd i Gwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc wedi cwblhau tymor llawn, wedi bod yn hyfforddi mewn gwersylloedd penodol ac wedi chwarae sawl gêm ryngwladol cyn dechrau'r bencampwriaeth saith wythnos.

Ddydd Mawrth dywedodd yr Athro Willie Stewart, niwrobatholegydd a chyn-ymgynghorydd i World Cymru, wrth The Associated Press: "Rwy'n credu y bydd Cwpan y Byd eleni yn ddiwedd ar rygbi ry'n ni'n gyfarwydd ag e.

"Rwy'n credu y bydd rygbi'r undeb yn newid yn syth wedi Cwpan y Byd."

Mewn datganiad dywedodd World Rugby, URC a'r RFU: "Rydym yn poeni'n fawr am bob aelod o'r teulu rygbi ac wedi cael ein tristáu gan hanesion personol cyn-chwaraewyr sy'n cael trafferthion gyda'u hiechyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Er bod hawliadau cyfreithiol yn ein hatal rhag siarad yn uniongyrchol â'r chwaraewyr hynny, byddem am iddyn nhw a'u teuluoedd wneud hynny.

"Ry'n ni am iddyn nhw wybod ein bod yn poeni, rydym yn gwrando, ac nid ydym byth yn sefyll yn ein hunfan wrth sicrhau lles chwaraewyr.

"Gan weithredu ar y wyddoniaeth, y dystiolaeth a'r cyngor arbenigol annibynnol diweddaraf, rydym yn ymdrechu'n gyson i ddiogelu a chefnogi ein holl chwaraewyr - rhai'r dyfodol, y presennol a rhai blaenorol.

"Mae'r byd rygbi yn arwain o ran atal, rheoli ac adnabod effeithiau cyfergydion pen ac mae World Rugby hefyd yn ariannu ymchwil yn y maes ac yn archwilio technoleg a all wneud y gamp mor hygyrch, cynhwysol a diogel â phosib i bawb.

"Ers Rhagfyr 2020, pan gafodd yr honiadau cyfreithiol hyn eu gwneud gyntaf, nid ydym yn gallu gwneud sylw ar fanylion y camau cyfreithiol wrth i ni barhau i aros am fanylion llawn yr honiadau sy'n cael eu gwneud yn ein herbyn."