Peryg i awduron droi at y Saesneg yn sgil toriadau
- Cyhoeddwyd
Mae peryg i awduron sy'n ysgrifennu yn Gymraeg orfod troi at y Saesneg er mwyn cael llyfrau wedi eu comisiynu yn y dyfodol, yn ôl pennaeth Cyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd Helgard Kraus bod y sector cyhoeddi yng Nghymru yn wynebu argyfwng, gyda'r cyngor hefyd yn wynebu toriad ariannol o tua £450,000.
Mae'r cyngor wedi penderfynu gwarchod swyddi, a llyfrau craidd, poblogaidd - ond mae hi'n poeni na fydd modd cefnogi awduron newydd i'r dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod pa mor bwysig yw Cyngor Llyfrau Cymru i'r sector cyhoeddi yng Nghymru".
Yn ôl Helgard Kraus, mae'r sefyllfa ariannol bresennol yn achosi heriau sylweddol i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
"Os 'da chi'n cyfuno hwn gyda'r argyfwng costau byw, mae'n storm berffaith," meddai.
"Ar y cyfan dydi llyfrau Cymraeg ond yn bodoli os 'da ni'n cefnogi... Mae unrhyw doriad aton ni, at ein diwydiant, yn arwain at lai o lyfrau.
"Os yw llai o lyfrau yn cael eu comisiynu, mae pob awdur yng Nghymru yn ddwyieithog, falle byddan nhw'n troi at ysgrifennu yn Saesneg a mynd gyda gwasg mawr yn Llundain."
Mi fydd effaith y toriadau ariannol yn "fawr ac yn boenus", yn ôl Gwasg y Lolfa.
"Mae 'na rai pethau 'da ni'n falch bod y Cyngor Llyfrau wedi gwarchod," meddai Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol y Lolfa.
"Ond mae'n dal i fod yn wirioneddol ofidus i lyfrau Cymraeg.
"Ma' 'na dorri sylweddol yn digwydd o lyfrau arbenigol a llyfrau llenyddol arbennig sy'n sicr o olygu bod rhai llyfrau na fydd yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg, oedd yn cael eu cefnogi cynt."
Fe enillodd Manon Steffan Ros y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 gyda'r nofel Llyfr Glas Nebo.
Mae'n ofni na fydd awduron newydd y dyfodol yn cael yr un gefnogaeth.
"Mae'n risg i unrhyw gyhoeddwr gyhoeddi awdur newydd sbon," meddai.
"Tasai'r Lolfa a'r Cyngor Llyfrau ddim wedi cymryd y risg ar ryw lyfr ffantasi o'n i isio sgwennu pan o'n i ryw ugain oed, fysa Llyfr Glas Nebo ddim wedi bodoli."
"Mewn ychydig flynyddoedd pan fyddwn ni'n edrych yn nôl ar y cyfnod yma, ac yn meddwl bo' ni 'di gorfod torri arian oedd yn mynd i awduron newydd, yna da ni'n mynd i golli nhw ac mi fyddwn ni'n gweld effaith hyn mewn blynyddoedd i ddod mae arna' ofn."
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod pa mor bwysig yw Cyngor Llyfrau Cymru i'r sector cyhoeddi yng Nghymru".
"Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos i ymateb i heriau a chyfleoedd i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd27 Mai 2023