'Angen trafodaeth am argyfwng ariannol y celfyddydau'
- Cyhoeddwyd
Mae’n rhaid cael trafodaeth am sut i fynd i'r afael â'r argyfwng ariannol yn y byd celfyddydol, yn ôl cyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Steffan Donnelly fod toriadau yn amharu ar allu’r byd drama i deithio i wahanol ardaloedd o Gymru i lwyfannu cynyrchiadau ac yn effeithio cyfleoedd gwaith yn y sector.
Daw ei sylwadau yn sgil pryderon cynyddol am effaith toriadau ar ddiwylliant Cymru - gan gynnwys cwtogi cyllid Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diwylliant, celf a chwaraeon yn "bwysig i'n cymdeithas a'n llesiant", ond bod rhaid iddynt wneud penderfyniadau "anhygoel o anodd" ynghylch cyllidebau.
Nawdd heb newid ers 2009
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru fe ddywedodd Mr Donnelly fod Theatr Genedlaethol Cymru wedi cael ychydig dros £1m gan Gyngor Celfyddydau Cymru eleni.
Ychwanegodd bod eu nawdd wedi aros yr un fath ers 2009 - a’i fod pedair gwaith yn llai na theatr gyfatebol yr Alban
“Mewn termau real mae o’n doriad,” meddai.
“Eto, 'da ni’n ddiolchgar iawn am yr arian ond pan ti’n teithio gwaith o gwmpas Cymru mae deunyddiau wedi cynyddu o ran cost.
"Hefyd mae’r gwaith o deithio, mae'r gost o gludo'r set a chriw o gwmpas Cymru hefyd yn ddrud iawn a pan ti’n cymharu efo National Theatre Scotland er enghraifft maen nhw ar £4m.”
Llynedd, fe wnaeth cynhyrchiad 'Rhinoseros' gan Theatr Genedlaethol Cymru berfformio yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Pwllheli, Y Drenewydd, Aberteifi, Caernarfon ac Abertawe.
“Mae teithio gwaith yn anodd ac eto mae o’n hynod bwysig, achos be di’r pwynt neud cwpl o sioeau yn rhywle dydi pobl ddim yn gallu teithio i,” meddai Mr Donnelly.
“Os yda' ni wir eisiau i'n gwaith fod yn hygyrch, ni fel cwmni sydd angen gwneud yr ymdrech i deithio tuag at bobl ac mi allwn ni 'neud hynny’n dda - ond mae o’n hynod o gostus.”
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mai
Gall y wasgfa ariannol arwain at gwtogi’r teithiau, meddai, lleihad yn nifer y lleoliadau neu hyd y daith, neu dim ond teithio gyda chynyrchiadau bychan - gyda llai o griw ac actorion.
Byddai hyn yn amharu ar gyfleoedd gwaith, gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn gyflogwr pwysig yn y diwydiant - gan wario £350,000 ar gyflogi 300 o staff llawrydd mewn blwyddyn.
Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n dosbarthu’r nawdd celfyddydol sy’n dod o goffrau’r Senedd.
Yng nghyllideb diweddara Llywodraeth Cymru fe gafodd y cyngor doriad o 10.5%, a tydi rhai mudiadau - fel National Theatre Wales - heb dderbyn grant o gwbl eleni.
Dywedodd Mr Donnelly fod y toriadau yn dod ar ben y ffaith bod arian o ffynonellau eraill o Ewrop wedi dod i ben yn sgil Brexit, a bod rhaid trafod y ffordd ymlaen.
“Ers 2009 dydi’r Theatr Genedlaethol heb gael unrhyw gynnydd ond eto mae rhaid i ni barhau i gyflawni’r pethau yma so mae o’n gyfyng gyngor ac mae’n rhaid i ni feddwl fel Cyngor Celfyddydol, fel Llywodraeth ac fel cwmnïau sut yda ni’n mynd i fynd o gwmpas y moment yma o greisis.”
Penderfyniadau anodd
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi ei gwneud yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd.”
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cael cais am ymateb.
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 dydd Sul 28 Gorffennaf ac ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023