Oriel: Eisteddfod Ffermwyr Ifanc
- Cyhoeddwyd
Roedd dydd Sadwrn, 18 Tachwedd, yn ddiwrnod mawr yng nghalendr Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wrth i'r Eisteddfod flynyddol gael ei chynnal.
Ym Mhafiliwn Mona, Ynys Môn, oedd hi eleni a Sir Gâr a Cheredigion oedd y prif enillwyr.
Arwyn 'Herald' Roberts aeth yno i dynnu lluniau o'r cystadlu a'r hwyl ar ran BBC Cymru Fyw.

Beca a Cadi Williams o Geredigion oedd enillwyr y ddeuawd

Alaw Fflur Jones, sy'n wreiddiol o Aberaeron, oedd enillydd y Goron

Clwb Uwchaled oedd yn fuddugol ar y Sgets

Gwydion Alun o Eryri ddaeth yn ail, Celyn Richards o Sir Gaer gipiodd y wobr gyntaf ac Annest Jones o Frycheiniog oedd yn drydydd ar yr Unawd dan 16 neu iau

CFfi Dyffryn Madog, Eryri, oedd y Parti Cerdd Dant buddugol

CFfi Dyffryn Clwyd enillodd cystadluaeth y Gân Gyfoes

Ffion Thomas o Sir Benfro oedd yn fuddugol ar y gystadleuaeth Canu Emyn

Tomos Heddwyn Griffiths o Feirionnydd enillodd ar yr Unawd dan 21

Daniel O'Callaghan o Sir Gâr - enillydd unwad Offerynol 28 neu iau

Daisy Plews o Glwb Bodedern, Ynys Môn wnaeth ennill y wbor newydd sbon am ddysgwr y flwyddyn

Clwb Maldwyn ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth Meimio i Gerddoriaeth

Ynys Môn - ail ar y Meimio i Gerddoriaeth

Enillydd y Gadair oedd Mared Fflur Roberts o Glwb Porthmadog, Eryri

Gwern Pierce ac Aled Jones yn perfformio'r ddeuawd ddoniol fuddugol

Hannah Richards o Sir Gâr gipiodd y wobr yn y gystadleuaeth Alaw Werin

Rhys Evans o Sir Benfro enillodd y gystadleuaeth Dangos dy Ddoniau

Yn y gystadleuaeth monolog, Alaw Jones o Geredigion ddaeth i'r brig

Gwen Edwards, o Ynys Môn, yn ennill yr Unawd allan o Sioe Gerdd

Daeth Cai Evans a Ioan Davies o Geredigion yn ail yn y ddeuawd ddoniol

Parti llefaru Pontsian, Ceredigion, ar lwyfan y pafiliwn ym Mona