Gyrwyr yn 'synnu' wrth i gost yswiriant car godi 40%
- Cyhoeddwyd
Wrth i gostau trwsio ceir godi ac wrth i fwy o geisiadau gael eu gwneud ar bolisïau yswiriant, mae’r gost o yswirio ceir wedi codi’n gynt nag erioed.
Yn ôl ymchwil gan wefan gymharu prisiau Confused.com, sydd â’i phencadlys yng Nghaerdydd, mae prisiau 40% yn uwch nag oedden nhw’r llynedd.
Mae gyrwyr wedi “synnu” gyda’r “cynnydd sylweddol yn eu premiwm”, medd y prif weithredwr Steve Dukes.
Y cyngor yw i ddechrau ymchwilio ychydig wythnosau cyn bod angen polisi newydd, ac i fargeinio.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf hyd at fis Mehefin, roedd chwyddiant dros y DU yn 7.9%, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'n gwymp bychan o'r ffigwr o 8.7% ym mis Mai, ond mae'n parhau'n uchel.
Yn Llanwnda ar gyrion Caernarfon, mae Judith Owen ym meithrinfa Pitian Patian wedi gweld cynnydd aruthrol yn y gost o yswirio’r ceir fydd yn cludo plant y feithrinfa o le i le.
“‘Swn i'n d'eud ar gyfartaledd pan ddechreuon ni tua 18 mlynedd 'nôl ‘oeddan ni dal yn talu miloedd adeg yna, ond erbyn hyn 'da chi’n sôn am £8-9,000 am yswiriant ar gyfer pum cerbyd,” meddai.
"Mae costau cyffredinol wedi codi – ar fwyd a thrydan ac yn y blaen – ond mae’n fwy anodd egluro i’r cwsmeriaid sut mae yswiriant car yn effeithio ar brisiau’r gwasanaeth gofal plant.
“Pan 'da ni’n eistedd lawr ac yn gweld y cynnydd sydd yna yn ein holl gostau ni, mae posib weithiau i chi ystyried oes angen mynd â’r plant ar y trip yna, oes angen i ni brynu’r cyfarpar yna, oes angen i ni gael teganau newydd, oes posib tynnu 'nôl ar linynnau er mwyn gwneud arbedion?
“Ond pan mae o’n dŵad i yswiriant a chostau fel ‘na, yn anffodus does ‘na ddim byd ‘da ni’n gallu gwneud fel busnes.
"Mae allan o’n rheolaeth ni, ac mae hynna yn anodd.”
Brocer gyda chwmni yswiriant NFU Mutual yw Aled Owen Griffiths, sy’n egluro pam fod costau yswirio wedi cynyddu i’r fath raddau.
“Maen nhw’n cynyddu oherwydd chwyddiant ac oherwydd costau eraill sydd wedi cysylltu â chwyddiant.
“Be' 'dan ni’n weld ydy bod costau cerbydau, prisiau cerbydau wedi cynyddu’n sylweddol, ac oherwydd hynny mae’r gost o drwsio cerbydau wedi mynd i fyny yn sylweddol hefyd.”
Fis diwethaf, dywedodd Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) bod cost trwsio cerbydau wedi codi traean dros gyfnod o flwyddyn i £1.5bn - y ffigwr uchaf ers i’r ABI ddechrau casglu data yn 2013.
Cyngor Aled Griffiths i yrwyr yw i ymchwilio cyn cytuno ar bremiwm.
“Be' fyswn i'n d'eud ydy i gwsmeriaid wneud yn siŵr bod gynnyn nhw’r polisi maen nhw angen,” meddai.
“Dim yr yswiriant rhata’ ydy’r gorau bob amser.
"Mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwneud eu hymchwil, a hefyd os nad ydyn nhw’n siŵr, cael cyngor gan sefydliadau cwsmeriaid tebyg i gylchgrawn Which?, sydd yn rhoi cyngor ar beth i edrych amdano fo pan mae’n dod at brynu polisi yswiriant car.”
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
Yn ôl Steve Dukes o Confused.com, dylai gyrwyr ddyfalbarhau i sicrhau pris yswiriant teg.
“Mae gyrwyr yn gweld cynnydd sylweddol yn eu premiwm, fydd yn eu synnu,” meddai.
“Fodd bynnag, mae rhywbeth gallan nhw wneud am y peth.
"Gallan nhw ymchwilio am y pris gorau yn gynnar, a gallan nhw wneud i yswirwyr gystadlu am eu busnes a sicrhau eu bod yn cael y pris gorau posibl.”
Mae ffigyrau Confused.com yn adlewyrchu'r prisiau sy'n cael eu cynnig i gwsmeriaid.
Ond mae cwmniau yswiriant yn dadlau bod llawer o bobl yn talu llai na hynny mewn gwirionedd drwy herio cwmniau i gynnig prisiau gwell.
Cyngor i yrwyr gan Steve Dukes, prif weithredwr Confused.com
Ymchwiliwch am y pris gorau ar wefannau cymharu;
Dechreuwch chwilio dair wythnos cyn bod eich polisi’n adnewyddu;
Gwiriwch nad ydych chi’n talu am fwy o filltiroedd na hyn 'dych chi'n teithio;
Ychwanegwch yrrwr mwy profiadol os ydych yn ifanc neu’n newydd i yrru;
Cynyddwch y ffi tâl dros ben (excess), ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio’r ffi os bydd yn rhaid i chi wneud cais yswiriant;
Talwch yn flynyddol os allwch chi - mae yswirwyr yn codi llog am wneud taliadau misol.