'Siomedig' bod chwyddiant yn aros yn yr unfan
- Cyhoeddwyd
![Chwyddiant](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14920/production/_130165248_gettyimages-1395459396.jpg)
Mae chwyddiant wedi aros yn yr unfan - 8.7% - yn y flwyddyn hyd at fis Mai, yn groes i'r disgwyl.
Roedd y ffigwr yr un peth fis Ebrill ac mae pobl yn dal i wynebu costau uwch.
Mae'n golygu fod rhywbeth oedd yn costio £1 fis Mai diwethaf yn costio, ar gyfartaledd, tua £1.08 eleni.
![bwyd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8CCE/production/_130164063_ffrwythau.jpg)
Mae prisiau bwyd wedi codi ers y llynedd
Mae Banc Lloegr yn wynebu mwy o bwysau, o ganlyniad, i godi cyfraddau llog eto er mwyn ceisio rheoli chwyddiant.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies ei fod yn "siomedig".
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/D3F0/production/_130165245_39194de3-c24f-4ed5-ad99-4070018ac844.gif)
Beth yw chwyddiant a chyfraddau llog?
Mewn 90 eiliad: Beth ydy 'cyfraddau llog', 'Banc Lloegr' a 'chwyddiant'?
Chwyddiant yw faint mae prisiau'n codi dros gyfnod o amser.
Mae'n cael ei fesur gan y Swyddfa Ystadegau ac mae'r data'n cael ei ryddhau bob mis.
Mae Banc Lloegr wedi bod yn cynyddu cyfraddau llog i geisio dod â chwyddiant i lawr.
Y syniad yw ei gwneud hi'n fwy drud i fenthyg arian ac annog pobl i arbed arian.
Os nad yw pobl yn gwario gymaint, mae'r raddfa y mae prisiau'n cynyddu yn arafu wrth i gwmnïau gystadlu.
Ond mae hynny'n gydbwysedd anodd, gyda chyfraddau llog uwch yn golygu cynnydd mewn morgeisi, er enghraifft.
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/FB00/production/_130165246_e5c221d0-4d15-4720-b830-a267b013279e.gif)
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai costau teithio mewn awyren, ceir ail-law a phrisiau nwyddau a gwasanaethau hamdden wnaeth gyfrannu at y cynnydd mwyaf ym mis Mai.
Fe wnaeth prisiau bwyd a diod di-alcohol gynyddu ym Mai eleni ond roedden nhw'n dal yn llai na Mai 2022.
Roedd pris petrol a disel yn is eleni na'r un cyfnod y llynedd.
![Llenwi car gyda petrol](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10CF2/production/_126705886_gettyimages-97962752.jpg)
Mae pris petrol a disel yn gostwng yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Roedd arbenigwyr wedi darogan y byddai chwyddiant yn gostwng, fel yr eglurodd yr economegydd Athro Dylan Jones Evans ar Dros Ginio ar Radio Cymru ddydd Mercher.
"Mi oedd 'na ddisgwyliadau i chwyddiant ddod i lawr i ddangos fod y llwybr i chwyddiant dros y chwe i naw mis nesa' yn mynd i lawr a ddim yn mynd i fyny."
Mae disgwyl i Fanc Lloegr godi cyfraddau llog ddydd Iau.
"Mae'n broblem fawr i ddelio â hyn... a ma' yfory [ddydd Iau] yn mynd i fod yn benderfyniad diddorol.
"Mae rhai'n dweud maen nhw'n mynd i godi o 0.25% fel maen nhw 'di 'neud dros y misoedd diwethaf a rhai'n dweud wel 'pam ddim ei godi o 0.5% i gael chwyddiant o dan rhyw fath o control ond does na'm guarantee o hynny a gwbl."
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/FB00/production/_130165246_e5c221d0-4d15-4720-b830-a267b013279e.gif)
Dadansoddiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Huw Thomas
Mae chwyddiant yn ystyfnig o uchel o hyd.
Tra bod ambell bris yn gostwng - fel tanwydd - mae costau byw yn parhau'n heriol.
Yr arf mwyaf i ddod i'r afael â chwyddiant yw cynyddu cyfraddau llog, ac mae disgwyl i Fanc Lloegr fynd amdani yfory.
Ond mi fydd hyn y peri pryder i bawb sydd â morgais.
Tra bod y mwyafrif o bobl gyda morgeisi am dymor penodol - fixed term - mae miliynau ohonynt yn mynd i orfod cyrraedd cytundeb newydd o fewn y misoedd nesaf.
Fe fydd y gost yn fisol yn uwch, a'r esgid ariannol yn parhau i wasgu'n dynn.
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/D3F0/production/_130165245_39194de3-c24f-4ed5-ad99-4070018ac844.gif)
'Siomedig ond cyfeiriad cywir'
Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ddweud fod ffigyrau chwyddiant yn "siomedig" a bod y gostyngiad yn arafach na'r disgwyl.
![David TC Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13478/production/_127386987_gettyimages-1244217838.jpg)
Dywedodd David TC Davies fod chwyddiant yn "mynd yn y cyfeiriad cywir" ond yn arafach nag y byddai'n ei hoffi
"Maen nhw yn gostwng yn gyffredinol, maen nhw wedi dod lawr o 10% i 8.7% felly maen nhw'n mynd yn y cyfeiriad cywir, ond ddim mor gyflym ag y bydden ni i gyd yn ei hoffi.
"Dyna pam mae'n bwysig fod y Llywodraeth [y DU] yn ffocysu ar chwyddiant, dyna pam mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn am gytuno ar godiad cyflog o 20, 30% neu'n uwch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022