Elusen 'wedi colli'r cyfan' mewn tân mawr
![Tân Y Fenni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/9314/live/5565d870-a015-11ef-a040-d74242d1f59e.jpg)
Cafodd y siop elusen The Magic Cottage ac adeiladau eraill eu dinistrio yn y tân
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn dweud eu bod "wedi colli'r cyfan" wedi i dân mawr ddinistrio eu hadeilad yng nghanol Y Fenni.
Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi a cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân tu ôl i The Magic Cottage ar Stryd Frogmore tua 20:35 nos Sul.
Cafodd 14 o griwiau a thua 110 o ddiffoddwyr tân eu hanfon i’r lleoliad.
Cafodd y siop elusen ac adeiladau gerllaw eu dinistrio yn y tân.
Dywedodd Heddlu Gwent na chafodd unrhyw un ei anafu.
Mae tua 12 o bobl o dri eiddo cyfagos, oedd wedi cael eu symud i Ganolfan Hamdden y Fenni, bellach wedi gadael y ganolfan hamdden, yn ôl arweinydd Cyngor Sir Fynwy.
![Tân y Fenni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1536/cpsprodpb/df84/live/871bba80-9ff5-11ef-9172-c310204274ff.jpg)
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 20:35 nos Sul
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y tân wedi achosi i loriau a tho'r adeilad i ddymchwel.
"Mae criwiau'n gweithio'n galed i atal lledaeniad pellach i eiddo cyfagos," ychwanegodd.
Bydd "ymchwiliad trylwyr" gan Heddlu Gwent yn cael ei gynnal i ganfod achos y tân.
![Lesley Reynolds](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1680/cpsprodpb/7914/live/fe92a860-a065-11ef-915d-6d242fa040d6.jpg)
Dywedodd Lesley Reynolds o'r elusen eu bod "yn gwybod y bydd y gymuned yn gefn i ni"
Dywedodd Lesley Reynolds o elusen blant The Magic Cottage, ei bod "wedi fy llorio" fod yr adeilad wedi ei ddinistrio yn y tân, "ond yn bennaf rwy'n siomedig dros y teuluoedd yr ydym yn helpu".
"Nid yw wedi bod yn noson dda, ac roedd yn gwbl annisgwyl.
"Rydyn ni wedi colli'r cyfan ddoe, ond rydym yn gwybod y bydd y gymuned yn gefn i ni wrth iddyn nhw gynnig eu help a'u cefnogaeth.
"'Dyn ni mor lwcus. Rydyn ni wastad wedi cael tipyn o gefnogaeth gan y rhan fwyaf o'r gymuned.
"Rydyn ni'n cyflogi naw o bobl ac roedden nhw i gyd yma neithiwr. Rydym oll yn gweithio yn y cefndir i geisio cael popeth yn barod ar gyfer pryd bynnag y byddwn yn ailagor.
"Mae wedi mynd, ond nid yw wedi mynd am byth."
![Tân y Fenni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1536/cpsprodpb/8d9f/live/51ebf2c0-9ffb-11ef-9172-c310204274ff.jpg)
Cafodd tua 110 o ddiffoddwyr eu hanfon i'r safle
Mae'r ardal sy'n cwmpasu Stryd Frogmore, Regent Street, Princes Street a Baker Street wedi cau i'r cyhoedd.
Mae gofyn i'r cyhoedd osgoi canol Y Fenni ac i sicrhau bod eu ffenestri a'u drysau ar gau.
![Tân y Fenni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1536/cpsprodpb/fb5f/live/2196fbe0-9ffd-11ef-9260-19e6a950e830.jpg)
Dywedodd yr heddlu fod y tân wedi dechrau tu ôl i siop elusen The Magic Cottage
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby, fod 12 o bobl wedi eu hanfon o'u cartrefi i'r ganolfan hamdden yn ystod y tân.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Fedra'i ddim ond dychmygu pa mor ofnadwy oedd e i gael eich deffro yng nghanol y nos a chael eich symud i'r ganolfan hamdden."
Mae'r bobl yna wedi dychwelyd adref neu at ffrindiau bellach, gyda'r rhai sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn cael eu cefnogi i fynd i le diogel, meddai.
![Tân Y Fenni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/b2f7/live/99d698f0-a015-11ef-a040-d74242d1f59e.jpg)
Bydd ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal i ganfod achos y tân, meddai'r heddlu
"Mae hyn yn ofnadwy, yn gwbl ofnadwy, yn arswydus, yr olygfa, y tân, y mwg, yr ofn, mor frawychus i drigolion ac i bobl sy'n byw o gwmpas yma," meddai Ms Brocklesby.
Dywedodd fod y cyngor bellach yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys a chyngor y dref ar beth fyddai'n digwydd nesaf, ond ei fod yn rhy gynnar i ddweud beth fyddai'n digwydd i'r adeilad.
“Mae’n eiconig, mae’n mynd i fod yn llythrennol yn dwll enfawr,” meddai.
![Tân Y Fenni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/ce7a/live/b166c4a0-a01e-11ef-95d1-9d950a2263c3.jpg)
Mae'n rhy gynnar i ddweud be fydd yn digwydd i'r adeilad, meddai arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby
Disgrifiodd Richard John, cynghorydd Ceidwadol lleol y tân fel un "erchyll" a "thorcalonnus" wrth iddo ddiolch i'r gwasanaethau brys ar X, sef Twitter yn flaenorol.
Dywedodd Laura Wright, cynghorydd Llafur dros ward Grofield, fod y tân yn “hollol ddinistriol”.
![Tân Y Fenni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/63e9/live/9712f600-a01e-11ef-95d1-9d950a2263c3.jpg)
Ychwanegodd ei bod yn ddiolchgar i'r rhai sy'n "gweithio'n galed i gael popeth dan reolaeth a gwneud yn siŵr bod preswylwyr yn ddiogel".
Dywedodd yr AS Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru, Laura Anne Jones, bod y siop wedi'i "ddinistrio" yn y tân a bod y perchnogion "yn dorcalonnus".