Radio Cymru 2 i ymestyn nifer yr oriau darlledu

Bydd Radio Cymru 2 yn dod yn orsaf radio gwasanaeth cyhoeddus - chwe blynedd ar ôl lansio
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Radio Cymru 2 yn dod yn orsaf radio gwasanaeth cyhoeddus - chwe blynedd ar ôl lansio

  • Cyhoeddwyd

Mae'r BBC wedi cael caniatâd i fwrw 'mlaen gyda chynlluniau i ymestyn nifer yr oriau darlledu ar Radio Cymru 2.

Bydd hyn yn golygu fod y sianel yn dod yn orsaf radio gwasanaeth cyhoeddus, yn dilyn ymgynghoriad gan y corff rheoleiddio Ofcom.

O dan amodau sydd wedi eu gosod gan Ofcom, bydd rhaid i Radio Cymru 2 gyfrannu at gyflwyno "cynnwys o ddiddordeb a pherthnasedd i gynulleidfaoedd yng Nghymru", yn ogystal â cherddoriaeth sy'n berthnasol.

Bydd y sianel hefyd yn gorfod darparu bwletinau newyddion dyddiol a rheolaidd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a bwletinau newyddion dyddiol ar ddydd Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod y penderfyniad yn dangos bod Radio Cymru 2 "yn darparu gwerth uchel am arian".

'Rhan bwysig o fywydau gwrandawyr'

Mewn datganiad, dywedodd Ofcom eu bod nhw wedi cynnal asesiad cystadlaethau er mwyn ystyried a oedd y newidiadau i Radio Cymru 2 yn bosib.

Daeth yr asesiad i'r casgliad y bydd cynlluniau'r BBC "yn debygol o sicrhau gwerth cyhoeddus ychwanegol i wrandawyr Cymraeg".

Mae Ofcom hefyd yn ystyried y bydd effaith y cynlluniau ar gystadleuaeth yn "gyfyngedig".

Daeth cadarnhad ym mis Mehefin 2017 y byddai'r BBC yn sefydlu ail orsaf radio genedlaethol yn Gymraeg - datblygiad "hanesyddol", yn ôl golygydd Radio Cymru ar y pryd, Betsan Powys.

Fe ddechreuodd y gwasanaeth ddarlledu am 15 awr yr wythnos yn Ionawr 2018, cyn ymestyn yr oriau darlledu i 25 awr yr wythnos yn 2022.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Ry’n ni’n falch bod Ofcom wedi cadarnhau bod y cynllun i ehangu oriau Radio Cymru 2 yn gallu digwydd.

"Ers 2018, mae Radio Cymru 2 wedi bod yn rhan bwysig o fywydau gwrandawyr sydd eisiau gwasanaeth adloniant a cherddoriaeth yn y Gymraeg.

"Mae'r cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan Ofcom yn dangos yn glir y bydd Radio Cymru 2 yn darparu gwerth uchel am arian i’r cyhoedd heb amharu yn arwyddocaol ar y farchnad."

Bydd cyhoeddiad ar bryd y bydd oriau darlledu Radio Cymru 2 yn ymestyn - ac am ba hyd - yn cael ei wneud maes o law.