Ad-drefnu darlledu: 'Haws dod o hyd i raglenni Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Siân DoyleFfynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau a gynigiwyd ddydd Iau yn "hynod o bositif", meddai prif weithredwr S4C, Siân Doyle

Dywed S4C y bydd gwylwyr yn gallu dod o hyd i raglenni Cymraeg ar-alw yn haws o dan gynlluniau i ad-drefnu darlledu.

Dywed Llywodraeth y DU y bydd yn newid y rheolau er mwyn helpu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gystadlu â chwmnïau ffrydio mawr.

Bydd yn rhaid i wasanaethau fel BBC iPlayer, ITV Hub ac S4C Clic gael eu harddangos yn fwy amlwg, yn debyg i'r ffordd y maent yn meddiannu'r prif sianeli ar deledu traddodiadol.

Mae'n rhan o bapur gwyn y mae Llywodraeth y DU yn dweud fydd yn creu "oes aur teledu Prydeinig".

Mae'n cynnig "trefn amlygrwydd" newydd ar gyfer teledu ar-alw gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, a fydd hefyd yn berthnasol i S4C yng Nghymru, wedi'i dylunio i'w gwneud yn hawdd i'w canfod.

Clic yn 'boddi' ymhlith cystadleuaeth

Dywedodd prif weithredwr S4C, Siân Doyle, fod gwasanaeth Clic y sianel yn "boddi" ymhlith cystadleuaeth gan wasanaethau tanysgrifio fel Netflix ac Amazon Prime.

Bu'n rhaid i ddefnyddwyr ddod o hyd i'r ap cyn ei ddefnyddio, meddai wrth raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.

Mae'r newidiadau a gynigiwyd ddydd Iau yn "hynod o bositif" ac yn adlewyrchu'r ffordd mae gwylwyr yn gwylio cynnwys, ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys S4C, Yr Egin, yng Nghaerfyrddin

Mae'r llywodraeth hefyd wedi derbyn argymhellion i godi'r cyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar S4C, sydd â dyletswydd i wneud teledu i bobl "yn gyfan gwbl neu'n bennaf" yng Nghymru.

Dywed y bydd yn "diweddaru cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a chael gwared â'r cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol".

"Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i S4C ehangu ei chyrhaeddiad a chynnig ei chynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau newydd yn y DU a thu hwnt," meddai.

Addo 'mwy o eglurder'

Gallai gofyniad i'r BBC ddarparu nifer penodol o raglenni ar gyfer S4C, sef tua 10 awr yr wythnos ar hyn o bryd, hefyd gael ei ddileu.

Yn lle hynny, fe fyddai'r ddau ddarlledwr yn gallu "cytuno gyda'i gilydd ar drefniant amgen sy'n gweddu'n well i'r dirwedd ddarlledu sy'n esblygu a'r newid yn y ffordd y mae pobl yn cael gafael ar gynnwys".

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig newid y ffordd mae'r BBC yn cael ei hariannu, ond mae'n dweud bod yn rhaid i S4C - sy'n cael ei hariannu drwy ffi'r drwydded - "barhau i dderbyn lefel gynaliadwy a rhagweladwy o gyllid".

Bydd yn cael £88.8m eleni a'r flwyddyn nesaf, cyn i'w chyllideb ddechrau codi gyda chwyddiant.

Yn y dyfodol, mae'r llywodraeth yn dweud y bydd gan S4C "fwy o eglurder ar ei gallu i fuddsoddi a chynhyrchu refeniw masnachol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prif weithredwr S4C fod gwasanaeth Clic yn "boddi" ymhlith cystadleuaeth gan wasanaethau tanysgrifio

Yn ymateb i gyhoeddiad y papur gwyn dywedodd Dyfrig Davies, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru eu bod yn "croesawu ymrwymiad y llywodraeth i ddiogelu'r gyfundrefn telerau masnach presennol, sydd wedi arwain at lwyddiant ysgubol y sector cynhyrchu teledu annibynnol yn y DU drwy ganiatáu iddynt fanteisio'n llawn ar eu heiddo deallusol".

"Rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i sicrhau amlygrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar ystod ehangach o lwyfannau, a fydd yn helpu ein holl ddarlledwyr darlledu gwasanaeth cyhoeddus gan gynnwys S4C," meddai.

Ond ychwanegodd fod "dileu statws cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4 yn peri pryder, gan ei fod yn fuddsoddwr sylweddol mewn cynyrchiadau annibynnol a thalent newydd ledled y DU".