Tywydd garw yn achosi trafferthion mewn rhannau o Gymru

Rhybudd melyn y swyddfa dywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 18:00 nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae rhagor o wyntoedd cryfion a glaw trwm wedi taro Cymru dros nos yn dilyn llifogydd mewn rhannau o'r wlad ddydd Sul.

Fe gafodd hyrddiadau 63mya eu cofnodi yn Aberdaron, Pen Llŷn yn oriau mân y bore, gyda gwyntoedd o dros 50mya yn gyffredin ar draws Cymru.

Dywedodd y gwasanaethau tân fod sawl coeden wedi cwympo, ac mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu trosglwyddo i gynghorau lleol.

Am 13:00 ddydd Llun roedd y Grid Cenedlaethol yn adrodd bod 460 o gartrefi heb bŵer yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru.

Llun o gylchfan dan dŵrFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Abertawe yw un o'r mannau sydd wedi dioddef llifogydd dros y penwythnos

Mae dros 100 o'r rheiny yn ardal Fairwater yng Nghaerdydd, tua 100 arall yn y Barri, tua 90 yn Abertawe, ac mae digwyddiadau llai hefyd ym Merthyr a Glynebwy.

Yng ngogledd Cymru, mae SP Energy Networks yn dweud bod yna doriadau pŵer yn y Rhyl, Dinbych, Llanberis a Morfa Nefyn.

Llun o gar dan ddŵrFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hyrddiadau dros 50mya i'w gweld ar draws Cymru

Ddydd Sul, fe gafodd sawl rhan o Abertawe eu heffeithio gan lifogydd ac mae Heol Caerfyrddin, yr A483, yn parhau ar gau yn Nhrefansel.

Mae yna rybuddion am lifogydd i dal i fod mewn grym gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol ar gyfer dalgylch Dyfi, Conwy, o gwmpas Afon Ewenni ac hefyd yn Abertawe.

Rhybuddion oren yw'r rhain, sy'n gofyn i bobl fod yn barod am y posibilrwydd o lifogydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer Cymru gyfan fydd yn parhau mewn grym tan 18:00 nos Lun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig