Rhybudd am wyntoedd cryfion nos Sul a ddydd Llun

Mae'r rhybudd melyn ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru, o 19:00 nos Sul tan 17.00 nos Lun
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai gwyntoedd cryfion achosi difrod a phroblemau teithio o nos Sul a thrwy ddydd Llun.
Mae'r rhybudd melyn ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru.
Daw'r rhybudd i rym am 19:00 nos Sul gan barhau tan 17.00 y diwrnod canlynol.
Mae disgwyl i wyntoedd gyrraedd hyd at 60mya dros arfordiroedd a bryniau yn bennaf, gyda hyrddiadau hyd at 80mya mewn mannau agored.
Mae disgwyl i'r gwynt fod ar ei gryfaf fore Llun gan symud tua'r dwyrain yn ystod y dydd.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd gwyntog achosi aflonyddwch teithio, gan gynnwys i longau ac awyrennau, a phosibilrwydd y bydd rhai ffyrdd a phontydd ar gau.
Mae'n bosib y bydd rhywfaint o ddifrod i adeiladau megis llechi a theils yn dod yn rhydd, a thoriadau i gyflenwadau trydan.
Mae rhybudd hefyd y gallai tonnau mawr effeithio ar gymunedau arfordirol.