Datgan sychder yng ngogledd Cymru wedi'r cyfnod sychaf mewn degawdau

- Cyhoeddwyd
Mae statws sychder wedi cael ei ddatgan yng ngogledd Cymru yn dilyn y chwe mis sychaf ers bron i 50 mlynedd.
Ar ôl cyfnod arall o dywydd poeth a sych, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod y trothwyon wedi'u cyrraedd i ddatgan statws sychder ar gyfer y gogledd.
Dywedodd CNC y daw ar ôl ystyried y cyfnod hir o dywydd sych sy'n parhau i effeithio ar afonydd, dyfroedd daear, tir a bywyd gwyllt er i rannau o'r wlad brofi rhywfaint o law yn ddiweddar.
Ond dywedodd Dŵr Cymru na fyddan nhw'n cyflwyno unrhyw waharddiadau ar ddefnydd, a bod dim pryderon am gyflenwad dŵr yn yr ardal ar hyn o bryd.

Mae lefelau dŵr cronfeydd fel Llyn Aled ar Fynydd Hiraethog wedi disgyn oherwydd y tywydd sych
Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi'u cynnwys yn y statws sychder mae Dyfrdwy, Hafren Uchaf, Gwynedd, Conwy, Ynys Môn a Chlwyd.
Cafodd statws sychder hefyd ei ddatgan yn ne ddwyrain Cymru yn gynharach yn y mis oherwydd y cyfnod hir o dywydd sych.
Mae CNC yn dweud bod y de orllewin wedi elwa o'r newid tywydd yn ddiweddar, ond eu bod yn monitro'r sefyllfa'n agos gyda'r disgwyl i'r tywydd sych barhau.
Mae CNC hefyd yn dweud eu bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i fonitro llif afonydd, lefelau dŵr daear ac effeithiau ar yr amgylchedd, tir, amaethyddiaeth a sectorau eraill yn fanwl.

Dyma'r olygfa ger Afon Elwy ddydd Gwener
Dywedodd Ben Wilson o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Bydd y glawiad yr wythnos hon yn rhoi rhywfaint o seibiant i'n hamgylchedd, ein tir a'n bywyd gwyllt, ond bydd yn cymryd misoedd lawer, a glaw mwy cyson i'n hamgylchedd adfer yn llawn.
"Y cyfnod o chwe mis rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf oedd y sychaf ers sychder 1976, ac mae wedi rhoi pwysau eithafol ar ein hafonydd, dyfroedd daear, amaethyddiaeth a bywyd gwyllt.
"Mewn rhai ardaloedd, mae hyn wedi achosi i lifoedd afonydd a lefelau dŵr daear ostwng o dan y lefelau isaf hanesyddol.
"Wrth i ni fynd i mewn i'r hydref, rydym yn parhau i gadw llygad agos ar ragolygon tywydd, llif afonydd a lefelau dŵr daear, yn ogystal ag ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau amgylcheddol a achoswyd gan y sychder."

Dywedodd Euros Jones bod "nifer o fesuriadau mewn golwg gyda ni ac yn amlwg i'r cyhoedd hefyd"
Wrth siarad â BBC Cymru, fe ddisgrifiodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru i Ogledd Orllewin Cymru, y sefyllfa fel un "bryderus".
Dywedodd bod y statws yn golygu "ein bod wedi mynd y tu hwnt i ryw lefel o ddiffyg glaw a mesuriad i wneud efo lefelau afonydd, lefelau dŵr yn y cronfeydd ac effeithiau ar yr amgylchedd.
"Yn ymarferol fyswn i'n dweud wrth bobl i fod yn ddoeth efo dŵr, ac i ni mae'n golygu bo' ni'n gwneud mwy o checks ychwanegol ar lefel afonydd, ar y llefydd 'da ni'n monitro defnydd dŵr".
Ychwanegodd bod 'na "nifer o fesuriadau mewn golwg gyda ni ac yn amlwg i'r cyhoedd hefyd.
"Mae dŵr yn hanfodol i ffordd o fyw felly mae'r diffyg yma, y sychder yma dros yr haf wedi taro nifer fawr o bethau."
Wrth nodi fod y sefyllfa yn un bryderus, dywedodd y bydd angen "tipyn o law i godi'r lefelau 'nôl i le fyse'n dda ar gyfer y dyfodol".
'Dim pryderon o ran cyflenwad dŵr yfed'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch lefelau cronfeydd dŵr ar draws ein hardal weithredu, gyda'r rhan fwyaf ar lefelau sy'n agos at yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
"Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gyflwyno unrhyw waharddiadau defnydd dros dro ac nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch unrhyw effaith ar ein cyflenwadau dŵr yfed.
"Rydym yn parhau gyda'n hymdrechion i leihau gollyngiadau ac ymateb i brif bibellau sydd wedi byrstio cyn gynted â phosibl ond hefyd yn gofyn i'n cwsmeriaid ddefnyddio'r dŵr y maent ei angen, ond i osgoi ei wastraffu."
- Cyhoeddwyd14 Awst
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.