Datgan statws sychder yn ne ddwyrain Cymru

Llun o afon WysgFfynhonnell y llun, CNC
Disgrifiad o’r llun,

O safbwynt Cymru gyfan, y cyfnod rhwng mis Chwefror a Gorffennaf yw un o'r sychaf mewn 190 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae statws sychder wedi cael ei ddatgan yn ne ddwyrain Cymru yn dilyn y chwe mis sychaf ers bron i 50 mlynedd.

Wrth i Gymru gael cyfnod arall o dywydd poeth a sych, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod y trothwyon wedi'u cyrraedd i ddatgan statws sychder ar gyfer y de ddwyrain.

Dywedodd CNC y daw ar ôl ystyried effaith pwysau parhaus y tymereddau uchel a'r diffyg glaw ar yr ardal yn ystod y misoedd diwethaf.

Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan y symudiad i statws sychder mae Gwy, Wysg, y Cymoedd (Taf, Ebwy, Rhymni, Trelái, Llwyd a'r Rhondda) a Bro Morgannwg.

Mae gweddill Cymru'n dal i fod mewn statws cyfnod hir o dywydd sych.

Llun o map o Gymru yn dangos pa ardaloedd sydd wedi cael statws sychder.Ffynhonnell y llun, CNC
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweddill Cymru'n dal i fod mewn statws cyfnod hir o dywydd sych

Mae CNC hefyd yn dweud eu bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i fonitro llif afonydd, lefelau dŵr daear ac effeithiau ar yr amgylchedd, tir, amaethyddiaeth a sectorau eraill yn fanwl.

Dywedodd Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC, Rhian Thomas: "Mae'r tywydd a welwyd dros y gwanwyn a'r haf hwn wedi bod yn eithriadol, gyda Chymru'n cofnodi'r cyfnod chwe mis sychaf ers sychder 1976.

"Wrth i'r ardal gyrraedd statws sychder, byddwn yn cynyddu ein camau gweithredu yn unol â Chynllun Sychder CNC."

Hyd yn hyn eleni mae Cymru wedi derbyn 555mm o law (Ionawr-Gorffennaf 2025), sydd bron mor sych â'r amodau yn 2022, lle cyhoeddwyd statws sychder ar Gymru gyfan erbyn mis Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig