Teyrnged i ddynes 'ffyddlon' o Gonwy wedi gwrthdrawiad beic modur

Roedd Sophie Elizabeth Baker "yn cael ei charu gan bob un ohonom," medd ei rhieni
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghyffordd Llandudno fis diwethaf wedi rhoi teyrnged iddi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar yr A546, Ffordd 6G, ger archfarchnad Tesco am tua 07:40 ar 20 Awst, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur.
Cafodd gyrrwr y beic, Sophie Elizabeth Baker, 31 oed o ardal Conwy, ei chludo i'r ysbyty ond bu farw o'i hanafiadau.
Dywedodd teulu Ms Baker fod ei chalon yn "llawn cariad ac ei bod yn ffyddlon iawn i'r rhai yr oedd hi'n poeni amdanyn nhw".
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn galw ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 07:40 ar 20 Awst
Dywedodd y teulu yn y deyrnged fod Ms Baker yn caru gyrru ei beic modur.
"Doedd dim byd yr oedd Sophie yn ei garu fwy na chodi yn y bore, gwisgo ei dillad lledr a mynd ar ei beic modur.
"Byddai wrth ei bodd yn gyrru dros fryniau a dyffrynnoedd gogledd Cymru a thu hwnt gyda'i ffrindiau beicio."
Dywedon nhw fod Sophie "wrth ei bodd yn bod yn rhan o'r gymuned honno. Roedd hi hapusaf ar ei beic".
'Llawn cariad'
Dywedodd brodyr a chwaer Ms Baker, Zak, Sam a Claire, ei bod hi "byth yn ofni bod yn hi ei hun – hyd yn oed os oedd hynny'n golygu bod ychydig yn flêr, ychydig yn ystyfnig, neu ychydig yn ddadleuol".
"Dyna rai o'r pethau yr oedden ni'n eu caru fwyaf amdani.
"O dan y cyfan roedd calon llawn cariad ac roedd yn driw iawn i'r rhai yr oedd hi'n poeni amdanyn nhw."
Ychwanegodd y tri: "I'n chwaer – diolch i ti am fod yn ti dy hun. Byddi di'n rhan ohonom ni am byth a byddwn ni'n cario dy atgofion gyda ni bob dydd."
Dywedodd rhieni Ms Baker, Julie a Jeff, fod twll enfawr wedi cael ei adael - "na fydd fyth yn cael ei lenwi".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst