Etholiad Comisiynwyr Heddlu: Gorsafoedd pleidleisio wedi cau

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae gorsafoedd pleidleisio wedi cau ar draws Cymru ar gyfer etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

Mae pedwar ymgeisydd, sy'n cynrychioli'r prif bleidiau gwleidyddol, yn sefyll i fod yn gomisiynwyr ym mhob un o ardaloedd heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.

Nid yw Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am benderfyniadau o ddydd i ddydd ar weithrediadau'r heddlu, ond maent yn gosod blaenoriaethau a chyllidebau'r heddlu a gallant hefyd benodi a diswyddo prif gwnstabliaid.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Am y tro cyntaf yn etholiadau Cymru roedd angen i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod gyda llun cyn pleidleisio.

Roedd gorsafoedd pleidleisio yn cau am 22:00 ddydd Iau, gyda'r pleidleisiau'n cael eu cyfrif a'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.

Bydd sylw i'r canlyniadau hynny ar draws BBC Cymru - gan gynnwys gwefan Cymru Fyw a Radio Cymru.