Rhybudd i gerddwyr ar ôl pyliau o banig ar Tryfan

TryfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw dau gerddwr ar fynydd Tryfan ym mis Mai a mis Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae cerddwyr yn Eryri wedi cael eu rhybuddio am ddringo mynydd Tryfan ar ôl i amryw o bobl gael pyliau o banig ar y llethrau yn ddiweddar.

Mae miloedd o bobl yn dringo'r mynydd bob blwyddyn, am ei lethrau serth a’i olygfeydd syfrdanol.

Ond mae tîm achub mynydd yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y cerddwyr sy'n amharod i ddringo'r mynydd 918m (3011tr) o uchder.

Daw’r rhybudd ar ôl i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen gael eu galw i helpu cerddwr i lawr o’r copa wedi iddyn nhw rewi gan ofn.

Anaddas i bobl amhrofiadol

Dywedon nhw: “Roedd grŵp 200m o gopa Tryfan pan gafodd un ohonyn nhw bwl o banig a methu symud.

"Roedd grŵp bach o aelodau’r tîm eisoes yn y ganolfan, felly fe aethon nhw i fyny at y person dan sylw.

“Ar ôl tawelu meddwl y person, cafodd y grŵp i gyd eu helpu i lawr y mynydd."

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cerddwr wedi profi pyliau o banig ar lethrau Tryfan yn ddiweddar, yn ôl Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Daw'r digwyddiad yn dilyn cyfnod prysur i'r tîm achub mynydd ar Tryfan.

Fe gafodd y gwasanaeth nifer fawr o alwadau i'r mynydd dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys dwy farwolaeth ar y mynydd ym mis Mai a mis Mehefin.

Ychwanegon nhw: “Mae’r tîm wedi delio â nifer o byliau o banig ar Tryfan yn ddiweddar.

"Os mai dyma’r tro cyntaf ar y mynydd hwn i chi neu rai o’ch grŵp, ystyriwch y canlynol:

“Mae Tryfan yn agored iawn gyda llawer o ddringo dros/o amgylch cribau ac ymylon - a fydd hyn yn effeithio’n ormodol ar unrhyw un ohonoch?

"Ydych chi'n gallu darllen map? Does dim llinell syth i'r maes parcio, peidiwch â chael eich temtio i fynd i lawr rhigolau dim ond oherwydd eich bod yn gallu gweld llawr y dyffryn.

“Fe fydd hi’n tywyllu'n sydyn iawn ar ôl i’r haul fachlud - os ydych chi’n tynnu lluniau'r machlud haul, cofiwch gymryd tortshis.”

Er ei fod yn un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Eryri, dywedodd y tîm achub nad yw'r mynydd yn addas i rai amhrofiadol.