Cyhuddo dyn o werthu cemegyn hunanladdiad ar-lein

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i gyhuddo o annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn dilyn honiadau ei fod wedi gwerthu sylwedd cemegol drwy fforwm ar-lein.
Bydd Miles Cross, 33 oed o Wrecsam, yn ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ym mis Hydref.
Dywedodd Malcolm McHaffie, pennaeth adran troseddau arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron, eu bod wedi "gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru wrth iddyn nhw gynnal eu hymchwiliad".
Dywedodd bod pedwar cyhuddiad o "annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn dilyn ymchwiliad heddlu i fusnes sy'n gwerthu sylwedd trwy fforwm ar-lein".
"Mae ein herlynwyr wedi gweithio i sefydlu bod digon o dystiolaeth i ddod â'r achos i'r llys a'i bod er budd y cyhoedd i ddilyn achos troseddol."
Mae ymchwiliadau'n parhau i farwolaethau dau o bobl, mewn cysylltiad â phecynnau'n cynnwys sylwedd a gafodd eu gwerthu ar-lein.