Mwy na 85,000 wedi torri cyfraith 20mya yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 85,000 o yrwyr wedi eu dal yn torri'r terfyn cyflymder 20 mya yn 2024, yn ôl ffigyrau diweddaraf GoSafe.
Yn y flwyddyn gyntaf ers i'r rheol newydd ddod i rym, fe wnaeth 48,337 o yrwyr dorri'r terfyn cyflymder yn ne a chanolbarth Cymru.
Fe ddaeth y rheol i rym ychydig yn hwyrach yng ngogledd Cymru, ac fe gafodd 36,710 o yrwyr eu dal.
Mae data gan yr heddlu i BBC Cymru yn nodi bod mwy na hanner y troseddau wedi digwydd ar saith rhan o lôn yn unig.
Rhwng Ionawr a Hydref diwethaf, cafodd mwy na 8,000 o yrwyr eu dal ar Heol Abertawe ar yr A4102 yng Ngellideg, Merthyr Tudful.
Roedd pum ffordd arall yn Sir y Fflint ymhlith yr uchaf, ac roedd 7,200 o yrwyr wedi eu dal ar yr A5104 ym Mhontybodcyn.
Nid oedd unrhyw droseddau wedi eu cofnodi yng Ngheredigion nag ym Mhowys.
Mae ffigyrau GoSafe ar gyfer mis Rhagfyr yn dangos mai 28.5 mya oedd y cyflymder cyfartalog yr oedd pobl yn cael eu dal yn goryrru yng ngogledd Cymru, a 27.9 mya yn ne a chanolbarth Cymru.
Y cyflymder uchaf oedd 65 mya. ym mis Rhagfyr, ond wrth edrych ar y flwyddyn 2024 yn ei chyfanrwydd, y cyflymder uchaf gafodd ei nodi oedd 88 mya.
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd14 Medi 2024
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024
Ar hyn o bryd mae gyrwyr yn gorfod dilyn cam gorfodi oes maen nhw'n gyrru ar gyflymder y tu hwnt i 26 mya lle mai 20 mya yw'r terfyn.
Mae'r rheol - a gafodd ei gyflwyno ym mis Medi 2023 - yn berthnasol i bron i draean o lonydd Cymru.
Mae ystadegau cynnar yn dangos bod llai o ddamweiniau difrifol a llai o anafiadau ar y lonydd lle mai'r terfyn yw 20 mya a 30 mya - sef tua 40% o lonydd.