Dros 1,500 o ffyrdd i newid yn ôl i 30mya - ymchwil

Llun dau arwydd 20 milltir yr awrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gall dros 1,500 o rannau o ffyrdd gael eu newid nôl i 30mya, yn ôl ymchwil BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fe allai tua 1,500 o rannau o ffyrdd gael eu newid nôl i 30mya fel rhan o adolygiad.

Bron i flwyddyn ers i'r drefn newydd 20mya ddod i rym, mae ymchwil gan y BBC yn dangos bod cynghorau Cymru wedi cael dros 10,500 o geisiadau gan bobl yn gofyn iddyn nhw edrych eto ar y terfyn cyflymder ar rai ffyrdd.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i newid ffyrdd 30 mya yn rhai 20mya fel mater o drefn.

Ond mae'r ymgynghorydd diogelwch ffyrdd, Tom Jones yn dweud y byddai hi wedi bod yn well cyflwyno'r newid yn raddol ac addasu wrth fynd ymlaen.

Mae'n dweud bod gormod o bwyslais ar fod y wlad gyntaf i gyflwyno'r cyfyngiad 20mya yn hytrach na'i wneud e'n iawn.

Awgrymodd arolwg diweddar gan YouGov fod 70% o bobl yn gwrthwynebu'r polisi ond mae'r heddlu'n dadlau fod yna lai o ddamweiniau a marwolaethau o ganlyniad.

Mae Dan Allsobrook yn gwirfoddoli gyda chynllun rheoli cyflymder lleol yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Roedd e o blaid y newid ond mae e'n feirniadol o'r ffordd y cafodd e ei gyflwyno.

"Doedd y canllawiau ddim yn glir ac felly mae na anghysondeb ar draws Cymru.

"Yma yng Nghaerdydd mae ambell ffordd ddeuol yn 20mya a felly dyw pobl ddim yn meddwl fod hynny'n briodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Arolygydd Gareth Morgan, yn credu y bydd yna "newidiadau ond ddim ym mhobman"

Mae Heddlu'r De yn derbyn y bydd rhai ffyrdd yn newid o ganlyniad i'r adolygiad ond yn mynnu fod y newid wedi gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch y ffyrdd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Gareth Morgan, sy'n gyfrifol am ddiogelwch y ffyrdd ar ran y llu: "Gyda newid mor fawr â hyn, mae'n anodd cael popeth yn berffaith felly mae'n iawn fod awdurdodau lleol yn mynd nôl dros bopeth a checio bod yr heolydd iawn wedi newid i 20 milltir yr awr. 

"Dwi'n credu y bydd 'na newidiadau ond ddim ym mhobman... yn barod yn ardal Heddlu De Cymru, mae nifer y marwolaethau ry' ni wedi gweld ar y ffyrdd lawr tua 30% yn erbyn ffigyrau'r blwyddyn diwetha'.

"Os yw hynny'n parhau, bydd e'n golygu bod unarddeg neu ddeuddeg yn llai o bobl yn cael eu lladd ar ffyrdd Cymru eleni."

'Gwneud pethau gam wrth gam'

Mae arolwg diweddar yn awgrymu bod dal gwaith i'w wneud i ddarbwyllo'r cyhoedd o werth y polisi, a gostiodd £34 miliwn.

Mae'r ymgynghorydd diogelwch ffyrdd, Tom Jones yn beio'r ffordd y cafodd y newid ei gyflwyno ac yn dadlau bod gwella sgiliau gyrru yn bwysicach na chyfyngiadau cyflymder.

Dywedodd bod "gormod o bwyslais ar fod y wlad gyntaf i wneud hyn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Jones yn credu y "dylai dipyn o'r arian yma fod wedi cael ei wario ar newid y ffordd 'da ni'n dysgu pobl i yrru yn y lle cynta'"

Ychwanegodd: "Ddylien ni fod wedi gwneud pethau gam wrth gam.

"'Da ni wedi gorffen fyny gyda rhywbeth sydd ddim cweit yn gweithio.

"Os ydan ni'n gorfod rhoi cyfyngiadau i mewn 'da ni 'di cholli hi'n barod.

"'Da ni ddim wedi neud y job yn iawn... a dwi'n meddwl y dylai dipyn o'r arian yma fod wedi cael ei wario ar newid y ffordd 'da ni'n dysgu pobl i yrru yn y lle cynta."

Anfon neges 'ddryslyd'

Mae 78,246 o yrrwyr wedi cael eu dal yn gwneud dros 20mya ers mis Ionawr.

Ym mis Awst, roedd 30,568 o yrrwyr wedi cael dewis i fynd ar gwrs neu chael dirwy a phwyntiau ar eu trwydded.

Er hynny, mae'n ymddangos fod y polisi yn gwneud gwahaniaeth i ymddygiad gyrrwyr.

O'r 26,270 o gerbydau gafodd eu monitro ym mis Awst, roedd 95% o fewn y trothwy o 26mya.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y data diweddara'n dangos gostyngiad sylweddol mewn damweiniau ar ffyrdd lleol ac y byddan nhw'n parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.

"Ry'n ni'n cydnabod y dylai rhai ffyrdd newid nôl i 30 milltir yr awr a dyna'n union fydd yn digwydd o ganlyniad i'n hadolygiad."

Pynciau cysylltiedig