Disgwyl miloedd ar y strydoedd i ffarwelio â Geraint Thomas

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cymal olaf y Tour of Britain ddydd Sul fydd ras olaf Geraint Thomas fel seiclwr proffesiynol

Mae disgwyl y bydd miloedd o gefnogwyr ar ochr strydoedd ledled de Cymru ddydd Sul wrth i Geraint Thomas ddod â'i yrfa ddisglair i ben.

Bydd cyn-enillydd y Tour de France a medal aur Olympaidd yn ymddeol pan fydd y Tour of Britain yn dod i ben yn ei ddinas enedigol, Caerdydd, ddydd Sul.

Mae cymal olaf heddiw o Gasnewydd i Gaerdydd yn ffordd addas o ffarwelio, gan basio'n agos at ble y cafodd ei fagu, a'i glwb seiclo pan yn blentyn - y Maindy Flyers.

"Mae'n wallgof," meddai Thomas.

"Fi'n lwcus bod y Tour of Britain yn dod ar ddiwedd y tymor fel y galla i orffen fy ngyrfa ar ffyrdd cartref.

"Mae'r cymal olaf yn mynd o fewn 100 metr i dŷ mam a dad, heibio i'r dafarn lle ges i fy mheint cyntaf.

"Fe fydd yn ffordd anhygoel o orffen, ac mae'n sicr yn teimlo fel yr amser iawn."

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ineos Grenadiers yn gwisgo crys arbennig yn ystod y Tour of Britain a gafodd ei ddylunio gan y Cymro

Mae ei dîm, Ineos Grenadiers, yn gwisgo crys arbennig yn ystod y Tour of Britain a gafodd ei ddylunio gan y Cymro.

Mae'n dathlu enwau pobl, lleoedd a buddugoliaethau a ddiffiniodd ei yrfa, yn ogystal â llun a gafodd ei wneud gan ei fab.

Bydd y cymal olaf yng Nghaerdydd yn dwyn i gof ei orymdaith trwy ganol y brifddinas wedi iddo ddychwelyd adref yng nghrys melyn pencampwr y Tour de France yn 2018.

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yw'r unig Gymro i ennill ras seiclo fwyaf y byd - y Tour de France

"Newidiodd hynny fy mywyd," ychwanegodd Thomas.

"Mae'n ddoniol. Ro'n i'n teimlo ar y pryd mod i'm teimlo dim pwysau, sy'n groes i'r hyn y byddech chi'n meddwl.

"Rydych chi yn y crys melyn am un neu ddau gymal, chi'n meddwl wrth i'r ras fynd yn ei blaen y byddech chi'n teimlo mwy o bwysau, ond os unrhyw beth, roeddwn i'n teimlo'n fwy hamddenol.

"Yn feddyliol ro'n i mewn lle mor dda.

"Efallai y byddai wedi bod yn wahanol pe bai wedi digwydd pedair neu bum mlynedd ynghynt, ond roedd bron yn teimlo fel pe bai popeth oedd wedi digwydd o'r blaen wedi fy mharatoi ar gyfer hynny."

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Thomas yn ennill aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014 yn Glasgow

Fe wnaeth Thomas hefyd ennill medalau aur ar y trac yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 a Llundain yn 2012, yn ogystal ag aur ar y ffordd yng Ngemau'r Gymanwlad 2014.

Wrth iddo nesáu at ei ymddeoliad fel seiclwr proffesiynol, mae ei olygon nawr yn troi at y dyfodol.

Mae wedi cynnal trafodaethau ynghylch symud i rôl reoli gyda thîm Ineos pan fydd, ble byddai'n gweithio ochr yn ochr â phennaeth y tîm Syr Dave Brailsford.

Ymunodd Thomas â Team Sky - fel yr oedd bryd hynny - yn 2010, a bu'n helpu'r tîm i ennill saith Tour de France, yn ogystal â chael llwyddiant yn y Vuelta a Espana a'r Giro d'Italia.

Pynciau cysylltiedig