Edrych yn ôl dros yrfa Geraint Thomas mewn lluniau
- Cyhoeddwyd
Ennill y Tour de France, medalau aur Olympaidd a Phencampwriaethau Byd – mae Geraint Thomas wedi cyrraedd uchelfannau'r byd seiclo dros nifer o flynyddoedd.
Wrth iddo ddechrau yn ei ras olaf cyn ymddeol - yn y Tour of Britain, fydd yn gorffen yng Nghaerdydd dydd Sul 7 Medi - dyma edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau gyrfa'r Cymro.

Fe wnaeth Geraint Thomas ddechrau ymddiddori mewn seiclo pan oedd yn fachgen ifanc ac yn aelod o'r Maindy Flyers. Dyma fo - yr ail o'r chwith - yn fuan wedi iddo ymuno gyda'r clwb yn 1995

Dywedodd ei gyn-hyfforddwr Debbie Wharton bod y seiclwr wedi gwella'n gyflym pan oedd o'n 14 oed

Yn 21 oed, Geraint Thomas oedd y seiclwr ieuengaf yn Tour de France 2007 - a'r tro cyntaf iddo gystadlu yn y ras. Dyma fo, yn fuan wedi iddo droi'n broffesiynol ac ymuno gyda thîm Barloworld, yn cael prawf meddygol ddeuddydd cyn i'r Tour gychwyn

Roedd Geraint Thomas yn llwyddiannus ar y trac ar ddechrau ei yrfa - gan gynnwys medal aur yng Ngemau Olympaidd 2008 yn y ras erlid i dimau. Yn y llun mae Paul Manning, Ed Clancy, Geraint Thomas a Bradley Wiggins. Fe enillodd aur yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain hefyd

Yn ogystal â'i fedal aur yn 2012, roedd yn aelod o'r tîm erlid buddugol ym Mhencampwriaethau Seiclo'r Byd yn Awstralia yn yr un flwyddyn. Dyma lun ohono mewn cystadleuaeth ragbrofol yn Llundain gyda gweddill ei dîm - Steven Burke, Ed Clancy a Peter Kennaugh

2018 oedd y flwyddyn pan gododd proffil Geraint Thomas yn aruthrol. Dyma fo a'i wraig Sara ar ddiwedd cymal 20 o'r Tour de France yn 2018 pan ddaeth yn amlwg mai'r Cymro fyddai'n fuddugol

Geraint Thomas yn dathlu gyda'i gyd-aelod o Team Sky Chris Froome yn ystod cymal olaf Tour de France 2018

Yn ei grys melyn - Geraint Thomas yn ennill y Tour de France

Fe wnaeth miloedd ei groesawu adref mewn gorymdaith arbennig fis Awst 2018 yng Nghaerdydd

Ac ar ddiwedd 2018, fe gafodd ei enwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC

Yn ei ôl yn y Tour de France yn 2022, y tro hyn gyda thîm Ineos Grenadiers

Cynrychioli Cymru yng Nghemau'r Gymanwlad 2022, lle enillodd fedal efydd er iddo ddisgyn yn gynnar yn y ras yn erbyn y cloc

O felyn i binc... gyda thîm INEOS Grenadiers ac yn gwisgo'r crys maglia rosa yn ystod cymal 14 o'r Gira d'Italia yn 2023

Geraint Thomas, gyda'i fab Macsen, yn dathlu dod yn drydydd yn y Giro d'Italia yn 2024. Yn ôl Eifion Thomas, tad-yng-nghyfraith y seicliwr, mae Geraint Thomas am ddysgu Cymraeg wedi iddo ymddeol a symud nôl i Gymru gyda'i wraig a'u mab

Mae Geraint Thomas wedi seiclo mewn ardaloedd hardd o'r byd - gan gynnwys droeon yn yr Alpau, fel yma ger Embrun yn Tour de France 2024

Ei Tour de France olaf eleni, a Geraint Thomas yn arwain y peleton yng nghymal 17

Ffarwel i'r rasio - llofnod i un o'i gefnogwyr yn Tour de France 2025
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd30 Mawrth
- Cyhoeddwyd23 Awst