Pobl ifanc yn creu ffilm i helpu cyfoedion fyw gyda galar

Megan - un o'r bobl ifanc sy'n ymddangos yn y ffilm fer Tyfu Mewn Galar, sydd wedi ei chreu ar sail profiadau pobl ifanc o Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
"Dyw galar byth really yn eich gadael - pan nath dad farw nes i just cau lawr. Doeddwn i ddim yn barod i wynebu colled fel hyn pan oeddwn i ond yn 10 oed."
Dyna eiriau agoriadol ffilm fer newydd sbon gan griw o bobl ifanc Aberystwyth a'r ardal.
Mae Tyfu Gyda Galar wedi ei hysbrydoli gan brofiadau pobl ifanc sydd wedi colli rhywun agos, yn y gobaith o helpu eraill i ymdopi.
Yn ôl Megan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Penweddig, rodd cael actio yn y ffilm "yn brofiad arbennig".
"Ma'r ffilm yn dangos straeon dau berson ifanc sydd yn delio gyda galar mewn ffyrdd gwahanol, a mewn sefyllfaoedd gwahanol," meddai.
"Y neges ydy bod 'na gymaint o ffyrdd i bobl ifanc gael cymorth gyda galar."

Mae Molly Grainger wedi sefydlu blog er mwyn helpu pobl ifanc i ddelio â galar
Un o'r rheiny sydd rhannu ei phrofiad wrth greu'r ffilm ydy Molly Grainger, 24, o Aberaeron.
"Bron pedair mlynedd yn ôl colles i Dad," meddai. "Oedd en amser really galed i ni fel teulu, yn enwedig yn y dyddie cynnar yna."
Erbyn hyn, mae hi wedi cychwyn blog i helpu pobl ifanc eraill sy'n mynd trwy galar, a hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod 'na ddigon o gymorth ar gael i'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd.
"Mae'n bwysig iawn i bobl ifanc gwybod bod rhywbeth ar gael iddyn nhw a bod cymorth gyda nhw.
"Dim bod 'na ddim lawer o gymorth ar gael yn y sir yma [Ceredigion]... ma'r cymorth yna, 'dan ni just ddim yn gweld e."

Mae Nel yn falch iawn iddi gael cyfle i fod yn rhan o'r ffilm
Un arall fu'n actio yn y ffilm yw Nel, sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Penweddig.
A hithau'n ystyried gyrfa yn y byd actio, roedd hi wrth ei bod yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad "mor broffesiynol".
"Fi'n really proud a hapus bod fi 'di cael bod yn rhan o hwn," dywedodd.
"Oedd e'n brofiad anhygoel. Oedd e mor cŵl cael gweld y camerâu. Oedd e'n rywbeth o'n i byth wedi cael profi o'r blaen."

Mae'r prosiect yn ganlyniad cydweithio rhwng pobl ifanc ardal Aberystwyth, yr elusen galar Sandy Bear, a chwmni theatr Arad Goch.
"Yr apêl fwya' i fi oedd bod pobl ifanc yng nghalon y prosiect," dywedodd cyfarwyddwr artistig Arad Goch, Ffion Wyn Bowen.
"O'r cychwyn cynta', nhw oedd isie' ymwneud â galar a phrofedigaeth. Roedden nhw wedyn yn mynd wrthi i gynllunio'r sgript.
"Tu ôl i'r camera, roedd e'n bwysig i ni bod y bobl ifanc yn cael defnyddio y camerâu, yn cael recordio'r llais ac yn y blaen, felly gobeithio fod trawsdoriad eang o bobl ifanc wedi elwa o fod yn rhan o'r ffilm."