Caerdydd: Caniatâd i greu sgwâr 'chwyldroadol' newydd

Bydd Sgwâr Dewi Sant wedi ei leoli lle'r oedd yr hen siop Debenhams yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd safle'r hen siop Debenhams yng nghanol Caerdydd yn cael ei drawsnewid i fod yn sgwâr newydd i'r cyhoedd, Sgwâr Dewi Sant.
Cyngor Caerdydd sydd wedi cymeradwyo'r cynlluniau, sy'n cynnwys gwagle i berfformiadau awyr agored, marchnadoedd a lle i werthwyr bwyd-stryd lleol.
Mae'r gwaith o ddymchwel yr hen siop Debenhams eisoes wedi dechrau.
Ond fel rhan o'r cynllun, mae Canolfan Siopa Dewi Sant yn cael cadw rhan o'r siop er mwyn gwneud defnydd hamdden ohono.

Dywedodd Canolfan Dewi Sant Caerdydd bod disgwyl i'r sgwâr newydd agor erbyn 2026
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys dau gaffi newydd ac adeiladau bwytai ar y safle.
Y bwriad yw y bydd coed a phlanhigion cynhenid yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Canolfan Dewi Sant bod disgwyl i'r sgwâr newydd agor erbyn 2026.
Caeodd siop olaf Debenhams ei drysau yn 2021, wedi i'r cwmni fynd i ddwylo gweinyddwyr yn 2019.
Arhosodd y safle yn wag am nifer o flynyddoedd, cyn i grŵp Landsec gyflwyno cynlluniau i ddymchwel rhan o'r safle, a'i gyfnewid am sgwâr cyhoeddus yn Awst 2024.
'Bydd sgwâr newydd yn chwyldroadol'
Dywedodd Helen Morgan, cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant, bod derbyn caniatâd yn "garreg filltir enfawr yn y datblygiad".
"Rydym wrth ein boddau bod Cyngor Dinas Caerdydd, a'r gymdeithas, wedi adnabod yr effaith gadarnhaol bydd y gwagle hwn yn ei gael ar y ddinas.
"Bydd sgwâr newydd yn y ddinas yn chwyldroadol i'r rhan yma o Gaerdydd, gan roi mwy o reswm i drigolion lleol ac ymwelwyr i dreulio amser yn Dewi Sant, ac yng nghanol y ddinas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
- Cyhoeddwyd13 Awst 2024