Cael coes brosthetig yn 92 oed yn 'freuddwyd' Nadoligaidd

Ifor a Gwenda MilesFfynhonnell y llun, Ifor Miles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifor a Gwenda Miles yn edrych ymlaen at y flwyddyn newydd

  • Cyhoeddwyd

Prin mae pobl yn gofyn am goes newydd oddi wrth Sion Corn ond i un dyn o Abertawe, dyna yn union yr oedd e'n dymuno o dan y goeden eleni.

I Ifor Miles, sy'n 92 oedd, roedd y newyddion bod coes brosthetig yn bosib iddo yn rhodd Nadoligaidd wedi blwyddyn o boen.

Y gred yw bod Mr Miles ymhlith yr hynaf i gael coes brosthetig.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd y cyn-brifathro o Abertawe ei fod e'n dysgu'n araf bach i fyw gyda'i goes newydd.

"Fi wedi llefain unwaith neu ddwywaith," meddai Mr Miles, sydd wedi wynebu heriau iechyd gyda'i goesau dros y blynyddoedd diwethaf.

"Fe aeth pethau o chwith," meddai'r cyn-athro o Bontarddulais, sy'n byw gyda'i wraig, Gwenda.

"Wir i chi, mewn byr amser fe ddywedon nhw fyddai nhw yn meddwl yn nhermau llawfeddygiaeth."

Wedi oriau yn yr ysbyty a'r meddygon yn arbrofi gyda nifer o driniaethau amrywiol, penderfynwyd bod angen torri ei goes i ffwrdd dan ei ben-glin ddechrau 2024.

Ffynhonnell y llun, Ifor Miles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifor a'i wraig wedi bod yn ymweld â'r ysbyty ddwywaith yr wythnos

Wrth ddod i'r arfer gyda'i fywyd heb ddau goes, dysgodd Mr Miles ddefnyddio cadair olwyn.

"Dwi ddim wedi bod mas llawer. Dwi wedi bod lawr i'r parc i weld gêm fach o rygbi a dyna'r cyfan.

"Ond dwi'n trio fy ngorau."

Ac yno, wythnos cyn Nadolig eleni, cafodd ei brosthetig newydd gan y tîm arbenigol sydd wedi bod yn ei gynorthwyo yn Ysbyty Treforys.

Mae e nawr yn dysgu dod i'r arfer gyda'i goes newydd, wedi oriau o driniaeth yn yr ysbyty.

"Mae e'n anodd. Rwy'n gorfod gweithio'n galed i fynd o gwympas."

Ymarfer er mwyn cryfhau

Adduned Mr Miles ar gyfer y Flwyddyn Newydd ydy gweithio'n galed i gryfhau unwaith yn rhagor gan ddefnyddio'r prosthetig am gwpl o oriau'r dydd.

"Rwy'n ymarfer yn y tŷ, yn cerdded o gwmpas y tŷ gyda'r prosthetig arno," meddai.

Mae nifer o'r meddygon sydd wedi ei drin yn amau bod Mr Miles ymhlith yr hynaf i gael prosthetig yng Nghymru.

"Mae'r ffisiotherapydd yn yr ysbyty wedi dweud bo' fi'n hen iawn yn cael e, beth bynnag."

Y gobaith nawr, meddai, ydy camu ymlaen i'r flwyddyn newydd yn sionc ac yn bositif.

Pynciau cysylltiedig