'Profiad ofnadwy' dyn o Wynedd gollodd ddwy goes i ddiabetes
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon ac elusennau yn rhybuddio am gynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n colli eu coesau oherwydd cymhlethdodau yn ymwneud â diabetes.
Mae arbenigwyr yn poeni am yr effaith ar gleifion a'r baich ar y gwasanaeth iechyd, wrth i gyfraddau diabetes barhau i godi.
Yn ôl dyn o Wynedd sydd wedi colli ei ddwy goes o ganlyniad i'r cyflwr, mae cefnogaeth yn "wan iawn".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod £1m y flwyddyn yn cael ei wario ar raglen atal diabetes.
'Hanner ein cleifion â diabetes'
Yn gofrestrydd llawfeddygol ar ward fasgwlar yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd, mae Dr Brenig Gwilym yn gweld yn ddyddiol y niwed y gall diabetes ei achosi.
"Mae gennym ni turnover uchel ar y ward yma. Mae o gwmpas 100 o gleifion yn dod mewn ac allan bob mis ac mae dros hanner o'r rheiny â diabetes," meddai.
Mae diabetes yn gyflwr sy'n achosi lefelau siwgr yng ngwaed rhywun i godi'n rhy uchel.
Ond gall y cyflwr hefyd effeithio ar y cyflenwad gwaed i droed rhywun, ac achosi niwed i'r nerfau.
O ganlyniad gall rhywun anafu eu traed heb sylwi, all arwain at glwyf sy'n gwrthod gwella, haint, ac yn yr achosion mwyaf difrifol - lle mae'r haint hwnnw yn peryglu bywyd - llawdriniaeth i golli coes.
Yn ôl tîm yr uned fasgwlar dyw hi ddim yn anarferol gweld chwech neu saith claf yr wythnos yn gorfod cael y math hwn o lawdriniaeth.
Yn ôl Dr Gwilym, mae hynny'n her anferth i gleifion a'r gwasanaeth iechyd.
"Maen nhw'n gorfod mynd trwy brofiad ofnadwy o wynebu amputation.
"Mae nifer o gleifion yn gorfod bod yn yr ysbyty yn hir ar ôl cael amputation.
"Mae'r [lawdriniaeth] yn effeithio ar eu gallu nhw i symud yn amlwg ond hefyd ar eu gallu nhw i weithio, bod yn rhan o'r gymuned a gweld y bobl oedden nhw'n arfer gweld."
8% o'r boblogaeth
Mae gan tua 8% o oedolion yng Nghymru ddiabetes - y gyfradd uchaf o unrhyw wlad yn y DU.
Os fydd y cyfraddau'n parhau i gynyddu, yr amcangyfrif yw y gallai hynny gynyddu ymhen tua 10 mlynedd i un o bob 11 oedolyn yng Nghymru (tua 260,000 - 300,000 o bobl).
Mae'r gwasanaeth iechyd yn gwario mwy na £500m y flwyddyn (tua 10% o'i gyllideb) yn rheoli diabetes a'r cymhlethdodau sy'n deillio o hynny.
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
Mae ystadegau'r gwasanaeth iechyd hefyd yn awgrymu bod nifer y bobl yng Nghymru sy'n gorfod colli rhan o'r corff oherwydd diabetes wedi cyrraedd 656 yn 2021/22.
Y gost i'r gwasanaeth iechyd yw tua £17,000 ar gyfartaledd, gyda rhywun yn gorfod aros yn yr ysbyty am tua 20 diwrnod.
Un sydd â phrofiad personol o hynny yw David Chubb, sy'n rhedeg cwmni tacsis yn ardal Bangor.
Wedi iddo gael diagnosis yn ei ugeiniau cynnar, erbyn hyn mae'r cyflwr wedi arwain ato'n colli ei ddwy goes.
"'Nes i ddechra' cael ulcers ar waelod 'y nhraed, bodia' traed yn mynd yn ddu, bodia' traed yn cael ulcers," eglurodd.
"Colli un bodyn troed, colli un arall, a wedyn 'naeth o’m darfod o fan’no."
Collodd ei droed o waelod ei ben-glin i lawr. Aeth yn ôl i'w fywyd bob dydd yn rhedeg cwmni tacsis mewn cadair olwyn.
Ond wythnosau cyn cyfnod clo cyntaf y pandemig, datblygodd friwiau ar ei goes arall a bu yn yr ysbyty am bedwar mis.
Diwedd hynny oedd colli ail goes.
'Dim cefnogaeth'
Mae'n dweud ei fod wedi gorfod helpu ei hun i ddelio gyda'r cyflwr.
"Mae rhywbeth yn wan iawn," meddai am y gofal sydd ar gael.
Ychwanegodd ei wraig Llinos bod "dim cefnogaeth allan yna" i bobl fel nhw.
"Ers iddo fo golli’i goesau a bod mewn cadair 'da ni jyst yn teimlo ma' bob dim yn frwydr. Ti’n goro cwffio am bob dim.
"Doedd 'na ddim byd lifestyle changes oedd yn medru gwneud gwahaniaeth i be' oedd ein bywyd ni o ddydd i ddydd.
"Dim ots pa mor galed oeddan ni’n gweithio o'dd o [y diabetes] yn cwffio yn ein herbyn ni."
Mae baich hyn i gyd ar y gwasanaeth iechyd yn "enfawr" yn ôl Mathew Norman, dirprwy gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru.
"Os da' chi'n colli coes rhaid i chi gael help wedyn i fyw," meddai.
"Os da' chi'n colli golwg (cymhlethdod arall all gael ei achosi gan ddiabetes) yna efallai fod yn rhaid i chi gael ci tywys neu gefnogaeth arall.
"Felly ma'r rhan fwyaf sy'n byw efo math 2 diabetes hefyd yn byw â chyflwr arall, yn cynnwys problemau'r traed, llygaid, y galon neu'r arennau.
"Felly mae'r cymhlethdodau yn dechrau cynyddu a ma' hynny’n cael effaith nid yn unig ar eich iechyd chi eich hunan ond yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd."
Mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ac ehangu'r cynlluniau i daclo diabetes.
Tra bod diabetes math 1 yn gyflwr sy'n para oes a does dim modd ei atal, mae modd gostwng y risg o gael diabetes math 2 - sy'n cynrychioli 90% o achosion diabetes ymhlith oedolion - trwy fwyta'n iach, ymarfer corff a chynnal pwysau iach.
'Mae'n rhif enfawr'
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod yna amrywiaeth o fentrau a rhaglenni i helpu pobl i fyw bywydau mwy iach, “yn cynnwys gwario £1m y flwyddyn i gyflwyno rhaglen Atal Diabetes ar gyfer Cymru gyfan”.
Ond mae arbenigwyr yn poeni am y twf yng nghyfraddau diabetes math 2.
"Rydyn ni'n bryderus iawn am y cynnydd," meddai Dr Keith Reed, dirprwy brif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru dros iechyd y cyhoedd.
"Mae tua 8% o boblogaeth Cymru wedi cofrestru gyda diabetes math 2 - mae hynny'n fwy o oedolion â diabetes math 2 na holl boblogaeth Abertawe.
"Mae'n rhif enfawr.
"Ond rydyn ni'n credu y byddai modd i tua hanner y bobl hynny, o bosib, beidio cael diabetes pe bydden nhw wedi ymddwyn yn wahanol, pe bai'r amgylchedd o'u cwmpas nhw wedi bod yn wahanol neu os oedden nhw wedi dilyn llwybr gwahanol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2016
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023