Dyn 24 oed yn yr ysbyty wedi ymosodiad gan gi

HeddluFfynhonnell y llun, Robert Melen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad toc wedi 07:00 fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad gan gi yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Blair yn Aberafan am tua 07:00 fore Llun yn dilyn adroddiadau o "ddigwyddiad yn ymwneud â chi".

Cafodd y dyn 24 oed - sy'n perthyn i berchennog y ci - ei gludo i'r ysbyty gydag "anafiadau difrifol".

Yn ôl swyddogion, mae'r ci bellach wedi ei dawelu ac wedi cael ei gludo o'r safle gan adran gŵn yr heddlu.

Dywed llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad am 07:14 a'u bod wedi cludo unigolyn i'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwaed i'w weld ar ffens yn agos at safle'r digwyddiad

Dywedodd rhywun sy'n byw yn agos at safle'r digwyddiad wrth BBC Cymru: “Rhyw fath o gi pitbull achubon nhw o dŷ cyffuriau rhyw saith mis yn ôl oedd e.

“Gwelais i saith neu wyth car heddlu yma o leia’. Roedd ‘na heddlu arfog yma yn chwilio am y ci.

“Roedd ‘na guro ar fy nrws am 07:30, a'r heddlu am chwilio yn ein gerddi. Fe ofynnon nhw i ni aros tu fewn.”

Pwyntiodd yr unigolyn at waed ar ffens gerllaw.

“Ro’n i'n tybio mai gwaed y ci oedd hwn, ond fe ddaeth brawd y bachgen draw a dweud wrtha’ i ei fod yn perthyn i'r bachgen.”

“Dydyn nhw ddim yn byw yma, mynd a'r ci am dro yn y cae oedden nhw pan ddigwyddodd y peth.”

Fe ddywedodd ail berson wrth BBC Cymru: “Gwelais i heddwas gyda gwn yn cerdded heibio fy ffenest, yn chwilio am y ci.”

Pynciau cysylltiedig