Beiciwr modur 25 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân ddydd Sul.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd Cwmbrân Drive tua 13:50.
Cafodd swyddogion eu galw i'r safle ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Y beic modur oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad.
Bu farw dyn 25 oed yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw'n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.