Dim achos llys newydd yn erbyn athro oedd yn ddieuog o droseddau rhyw

Roedd yr amddiffyn wedi dadlau yn ystod yr achos mai "sibrydion maleisus" oedd yr honiadau yn erbyn Mr Coombs
- Cyhoeddwyd
Mae athro oedd wedi ei ganfod yn ddieuog o gael perthynas o natur rywiol gyda phlentyn wedi cael ei ryddhau ar ôl cael gwybod na fydd yn wynebu cyhuddiadau pellach.
Roedd Jonathon Coombs, 54 oed, yn athro drama yn Ysgol Pencoedtre yn Y Barri ac yn ymwneud â chwmnïau drama lleol.
Roedd wastad wedi gwadu saith cyhuddiad o weithred rhyw gyda phlentyn gan berson sydd mewn swydd o ymddiriedaeth.
Yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth rheithgor ddod i'r casgliad ei fod yn ddieuog o bum cyhuddiad, ond doedden nhw heb allu dod i ddyfarniad ar ddau gyhuddiad arall.
Roedd yr amddiffyn wedi dadlau yn ystod yr achos mai "sibrydion maleisus" oedd yr honiadau yn ei erbyn ac nad oedd erioed wedi cyfaddef cysgu gyda'r bachgen.
Clywodd yr achos fod Mr Coombs wedi gweithio gyda chwmnïau drama ers 30 mlynedd ac wedi bod yn athro ers 20 mlynedd ac nad oedd unrhyw gŵyn yn ei erbyn.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher, cafodd wybod bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio gofyn am achos llys newydd i ddelio gyda'r ddau gyhuddiad oedd heb eu dyfarnu.
Fe ddywedodd y barnwr fod Mr Coombs yn ddieuog o'r cyhuddiadau hynny a chafodd ei ryddhau o'r ddalfa.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl