Athro'n ddieuog o bum cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn plentyn

CoombsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r erlyniad yn ystyried gofyn am achos newydd i ddelio gyda'r ddau gyhuddiad sydd heb eu dyfarnu

  • Cyhoeddwyd

Mae athro o'r Barri wedi ei gael yn ddieuog o bum cyhuddiad o gael perthynas o natur rywiol gyda phlentyn.

Roedd Jonathon Coombs, 54 oed, yn athro drama yn Ysgol Pencoedtre yn y dref ac roedd yn ymwneud â chwmnïau drama lleol.

Clywodd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd fod Mr Coombs yn agos i'r bachgen - oedd yn ansicr ynglŷn â'i rywioldeb - a'i fod wedi meithrin perthynas amhriodol ag ef ac wedi cymryd mantais ohono.

Roedd yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Wedi bron i 12 awr o drafod, daeth y rheithgor i'r casgliad fod Mr Coombs yn ddieuog o bum cyhuddiad o weithred rhyw gyda phlentyn gan berson sydd mewn swydd o ymddiriedaeth.

Doedd y rheithgor methu dod i benderfyniad ar ddau gyhuddiad arall, ac fe gafon nhw eu rhyddhau.

Fe wnaeth y barnwr ddiolch i'r rheithgor am eu gwaith caled, gan nodi mai achosion fel hyn - ble mae'n rhaid pwyso a mesur gair un person yn erbyn y llall - yw'r rhai anoddaf.

Yn ystod yr achos fe ddywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd mai "sibrydion maleisus" oedd yr honiadau yn ei erbyn ac nad oedd erioed wedi cyfaddef cysgu gyda'r bachgen.

Fe glywodd y llys fod y bachgen wedi gwadu fod unrhyw beth wedi digwydd rhyngddyn nhw wrth gael ei gwestiynu gan yr heddlu - ond iddo newid ei feddwl bum mis yn ddiweddarach.

Fe wnaeth yr amddiffyniad ddadlau mai embaras oedd wrth wraidd yr oedi, a'i fod ofn cyfaddef bod unrhyw beth wedi digwydd rhyngddynt.

Clywodd yr achos fod Mr Coombs wedi gweithio gyda chwmnïau drama ers 30 mlynedd ac wedi bod yn athro ers 20 mlynedd ac nad oedd unrhyw gŵyn yn ei erbyn.

Mae'r erlyniad bellach yn ystyried gofyn am achos llys newydd i ddelio gyda'r ddau gyhuddiad sydd heb eu dyfarnu.

Fe fydd Mr Coombs yn parhau yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 16 Mai.

Pynciau cysylltiedig