Canslo cyngerdd yn Eisteddfod Llangollen wedi 'digwyddiad meddygol'

Bu'n rhaid i bobl adael maes yr Eisteddfod oherwydd y "digwyddiad meddygol" nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae cyngerdd Karl Jenkins yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cael ei ganslo oherwydd yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "digwyddiad meddygol".
Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad fod eu timau meddygol wedi bod yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys wrth ymateb i'r digwyddiad "anarferol".
Mewn ail ddatganiad yn hwyrach nos Fercher, dywedodd yr Eisteddfod fod y digwyddiad yn ymwneud ag achosion o "salwch yn debyg i'r ffliw" a bod "nifer o bobl wedi arddangos symptomau tebyg".
Ychwanegodd llefarydd ar ran yr ŵyl fod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi cyhoeddi'r digwyddiad meddygol oherwydd "y nifer o bobl gafodd eu taro yn wael ar yr un pryd".
"Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn trin diogelwch ymwelwyr, cystadleuwyr, perfformwyr a gwirfoddolwyr fel mater difrifol iawn," meddai'r llefarydd.
"O ganlyniad, ar ôl derbyn cyngor, bu'n rhaid i ni ganslo digwyddiad fel hyn am y tro cyntaf yn ein hanes."
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod wyth o bobl wedi cael eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae'r Eisteddfod wedi cadarnhau eu bod nhw'n bwriadu agor y safle fel yr arfer am 09:00 fore Iau.
Maen nhw hefyd wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd wedi ei achosi ac wedi diolch i'r staff meddygol a'r gwirfoddolwyr am eu hymateb sydyn i'r digwyddiad.