Archesgob Cymru Andy John yn ymddeol wedi cyfnod cythryblus

Andrew John
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew John wedi bod yn Esgob Bangor ers 2008, ac yn Archesgob Cymru ers 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae Archesgob Cymru, Andy John, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar unwaith.

Mewn datganiad nos Wener, fe gadarnhaodd y byddai hefyd yn ymddeol fel Esgob Bangor ar 31 Awst.

Fe ddaw yn dilyn cyfnod cythryblus i'w esgobaeth ym Mangor ôl i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am Gadeirlan Bangor fis diwethaf.

Roedd yr adroddiadau'n cynnwys cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.

Nid yw'r adroddiadau llawn wedi cael eu cyhoeddi.

Fe gafodd grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio eu creu gan yr Eglwys yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r materion.

Yn dilyn gwalwadau gan rai i'r Archesgob ymddeol, fe gynigiodd ei "ymddiheuriad mwyaf diffuant i unrhyw aelodau o gymuned yr Eglwys Gadeiriol sydd wedi cael eu brifo neu'n teimlo fy mod i wedi eu gadael nhw lawr".

Pan ofynwyd i'r eglwys am ddigwyddiadau difrifol oedd wedi cael eu hadrodd i'r Comisiwn Elusennau, datgelwyd bod chwe adroddiad o'r fath - yn ymwneud ag elusennau sy'n gysylltiedig ag esgobaeth a Chadeirlan Bangor - wedi'u gwneud i'r comisiwn mewn ychydig dros flwyddyn.

Mae'r Comisiwn bellach wedi cadarnhau ei fod wedi lansio achos cydymffurfio rheoleiddiol yn ymwneud â'r elusennau.

Mae dau offeiriad yng Nghadeirlan Bangor hefyd wedi galw'n gyhoeddus am ymchwiliad annibynnol i'r Gadeirlan a'r esgobaeth.

Mae llythyrau gan aelodau eraill yr eglwys yn galw ar awdurdodau'r sefydliad i lansio ymchwiliad o'r fath hefyd wedi eu gweld.

Cadarnhaodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Sian Gwenllian, yr wythnos hon ei bod hi hefyd wedi ysgrifennu at awdurdodau'r eglwys yn galw am ymchwiliad annibynnol.

Diffyg hyder yn arweinyddiaeth esgobaeth Bangor

Ddydd Mawrth, ar ôl i sawl cynnig am gyfweliad gael eu gwrthod, fe wnaeth yr Archesgob wrthod gwneud sylw ar y sefyllfa yn ei esgobaeth, a hynny wrth wneud ei ffordd i gyfarfod yng Nghaerdydd i drafod y mater.

Ar ôl cyfarfod hir yn trafod y sefyllfa o fewn Esgobaeth Bangor, y gred yw bod Corff y Cynrychiolwyr, sy'n ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru, wedi drafftio a chytuno ar ddatganiad sy'n datgan nad oedd ganddynt hyder yn arweinyddiaeth esgobaeth Bangor.

Y gred ydy bod Archesgob Cymru wedi ceisio diwygio'r datganiad ond bod yr ymddiriedolwyr wedi gwrthod y cais hwnnw.

Fodd bynnag, cafodd gyfle i drafod goblygiadau'r datganiad gyda'r rhai sy'n agos ato.

Nid oedd yr Eglwys yng Nghymru am wneud sylwadau ar gyfarfod dydd Mawrth.

Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae datganiad yr Eglwys yng Nghymru yn diolch i Andy John am ei wasanaeth doedd dim sôn am y digwyddiadau diweddar yn esgobaeth Bangor

Nos Wener, fe gyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad yn diolch i Andy John am ei wasanaeth.

Doedd dim sôn am y digwyddiadau diweddar yn esgobaeth Bangor.

Dywedodd y Parchedicaf Andrew John ei fod wedi "bod yn llawenydd enfawr i wasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru ers dros 35 mlynedd" a diolchodd i "glerigwyr a chynulleidfaoedd yr esgobaeth wych hon".

Dywedodd yr Esgob Gregory Cameron, Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru: "Mae Andy wedi cysegru dros bum mlynedd ar hugain o'i fywyd i weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu gydag ymroddiad ac egni i gyhoeddi'r Efengyl Gristnogol a denu pobl at ffydd ddyfnach yn Iesu Grist.

"Mae wedi rhoi cymaint er lles yr Eglwys yng Nghymru.

"Mae bellach yn ildio'i gyfrifoldebau sylweddol, a hynny yn yr un ysbryd sydd wedi nodweddu ei wasanaeth dros y degawdau hyn."

Dywedodd Medwin Hughes, Cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr yr hoffai "ddiolch yn ddiffuant am bopeth y mae wedi'i gyflawni, a mynegi fy edmygedd o ddidwylledd ei weinidogaeth dros bobl Cymru".

Bydd pob aelod o Gorff y Cynrychiolwyr yn parhau i gadw'r Archesgob a'i deulu yn eu gweddïau."

Daeth Andy John yn Esgob Bangor yn 2008 a chafodd ei eithol yn Archesgob Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Ef yw'r 14eg person i gael y teitl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig