Mynediad am Ddim: 'Noson emosiynol, i'r dorf, ac i'r band'

Mynediad am Ddim yn cloi eu taith yn AberystwythFfynhonnell y llun, celfcalon
Disgrifiad o’r llun,

Mynediad am Ddim yn cloi eu taith yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

"Diolch i bawb ledled Cymru fu'n rhannu'r daith gyda ni, nid yn unig eleni ond ers 1974."

Dyna ddiolch Emyr Wyn, un o aelodau gwreiddiol y grŵp Mynediad am Ddim ar ôl blwyddyn llawn dop o gigio.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Mynediad am Ddim wedi bod yn gigio o amgylch neuaddau Cymru gyda channoedd ar gannoedd yn heidio i bob gig.

O Lanerfyl i Wrecsam, o Drawsfynydd i Grymych, o Fangor i Aberystwyth a sawl lle arall, mae tyrfeydd wedi dod ynghyd i ddathlu hanner canrif o'r grŵp gwerin poblogaidd.

Daeth taith y grŵp - sy'n adnabyddus am glasuron fel Cofio dy Wyneb, Ceidwad y Goleudy a Hi yw fy Ffrind - i ben yn y Neuadd Fawr yn Aberystwyth ar 1 Chwefror.

Mynediad am Ddim ar noson olaf eu taith i ddathlu hanner canrif o ganuFfynhonnell y llun, celfcalon
Disgrifiad o’r llun,

Mynediad am Ddim ar noson olaf eu taith i ddathlu hanner canrif o ganu

Gorffen y daith yn Aberystwyth

Roedd yn lleoliad teilwng i orffen taith grŵp a gafodd ei ffurfio gan griw o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Rhyng-gol 1974.

Dywedodd Emyr Wyn iddi fod yn "noson emosiynol, i'r dorf, ac i'r band".

Y dorf yn mwynhauFfynhonnell y llun, celfcalon
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn mwynhau

Ychwanegodd: "Braf gweld bod apêl canu gwerin mor gryf ag erioed, a bod cynulleidfa yno'n barod i fynychu nosweithiau fel yma.

"Mor braf ymweld â phob cwr o Gymru, o Grymych i Wrecsam ac o Gaerdydd i Gaernarfon. O neuaddau pentre fel Llanerfyl a Thrawsfynydd i theatrau mawr Pontio, Galeri a Felinfach.

"Peth peryg yw enwi gwahanol gigs, oherwydd roedd pob un yn gofiadwy. Edrych 'mlaen am seibiant nawr i ail charjo'r batris."

Ond cyn gweld beth ddaw nesaf gan Mynediad am Ddim, Emyr sy'n cofio 'nôl i ddyddiau cynnar y grŵp.

Mynediad am Ddim ddoe a heddiw. Mae'r band wedi chwarae nifer o gyngherddau ar draws Cymru dros y flwyddyn ddiwethafFfynhonnell y llun, Graham Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Mynediad am Ddim ddoe a heddiw. Mae'r band wedi chwarae nifer o gyngherddau ar draws Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf

Dechrau'r daith

Dwi'n meddwl bod e'n syniad collective i gychwyn y grŵp. Ro'n i'n sicr wedi cael fy nylanwadu fel unigolyn gan grwpiau gwahanol fel Tebot Piws, Dyniadon Ynfyd, Ac Eraill - ac er doedd dim grŵp fel y cyfryw yn Aber ar y pryd, roedd yna grwpiau wedi bod a rhai yn gadael pan oedden ni'n dechre.

Roedd Hefin Elis wedi gadael coleg ac wedi dechrau Edward H, ac roedd Hergest. Ond roedd chwaeth gerddorol fi a gweddill Mynediad yn wahanol ac roedden ni'n meddwl dyle fod mwy o ganu gwerin.

Roedd 'na dipyn o ganu yn digwydd yn Aber ar y pryd - roedd 'na ganu mewn tafarndai yn digwydd ar hyd yr amser. Emynau fwy na dim arall o'dd yn cael eu canu ac roedden ni'n rhyw deimlo y dylen ni fod yn canu caneuon gwerin, dim jest emynau mewn tafarn.

Felly roedd stôr o ganeuon oedden ni wedi mynd ati i ddysgu dros ryw ddwy flynedd - fel Fflat Huw Puw, Brethyn Cartref, Gwenno Penygelli a phethe fel yna.

Mynediad am DdimFfynhonnell y llun, Graham Pritchard

Gan fod ni i gyd gyda rhyw fath o lais, bydden ni'n arwain y canu mewn tafarndai, ac roedden ni gyd wedi canu yn unigol, wedi ein trwytho yn yr Eisteddfod ac ati. Felly roedd yn naturiol i ni ddod at ein gilydd i'r Steddfod.

Eisteddfod Rhyng-gol fis Chwefror 74 oedd hi, pan oedd y Steddfod yng Nghaerdydd. Cystadleuaeth parti neu grŵp gwerin oedd e.

Ac rodd Elfed Lewys yno (y baledwr, gweinidog ac arweinydd gyda'r Urdd) ac 'wy'n cofio fe'n dweud "ma' 'da chi rywbeth bois, sa i'n siŵr cweit be', ond ma' 'da chi rywbeth" ac fe wnaeth e annog ni i gario mlaen a dyna wnaethon ni.

Mynediad am DdimFfynhonnell y llun, Graham Pritchard

Roedd gan Graham (Pritchard) grŵp arall o'r enw Tudfwlch Hir, a Mei (Jones) ac Iwan (Roberts) yn canu 'da Coes Glec felly wnaeth Robin (Evans) a fi ryw fath o press gango pawb i ffurfio grŵp - achos roedden ni i gyd yn ffrindiau.

Felly daeth Tudfwlch a Coes Glec i ben gan fod Mynediad am Ddim wedi eu poachio nhw.

Dylanwad Ems

Mewn dim roedd hanner dwsin o ganeuon gyda ni ac fel ma'r pethe ma'n digwydd un diwrnod, yn eistedd yn y gornel roedd myfyriwr oedd ar ei drydydd coleg - sef Emyr Huws Jones. Ro'n i'n ei nabod e gan fod e gyda'r Tebot Piws a dyma fe'n dweud un noson "'ma gen i chydig o ganeuon os hoffech chi gael nhw..."

A wedes i "gad ni glywed nhw". Yn Neuadd Pantycelyn siŵr o fod oedden ni - ac yn sydyn roedd gyda ni ganeuon fel Arica, Fi, Ceidwad y Goleudy, Cofio dy Wyneb - drodd y 'chydig o ganeuon' yn nifer o ganeuon ni wedi canu byth ers hynny.

Rhoi'r gitâr i Emyr Huws JonesFfynhonnell y llun, celfcalon
Disgrifiad o’r llun,

Rhoi'r gitâr i Emyr Huws Jones

Erbyn Eisteddfod Cricieth yn 1975 roedden ni wedi bod gyda'n gilydd mwy neu lai ers blwyddyn yn gwneud y set yma o ryw 15 caneuon. Cymysgedd o ganeuon gwerin, rhai Ems, a'r rhai gwreiddiol cyn Ems.

Roedd 'da ni dri neu bedwar gig yng Nghricieth yn '75. Roedd Huw Jones (Sain) yn un a wedodd e'n syth 'dwi ishe chi ddod i'r stiwdio i wneud record' a dyna wnaethon ni yn '75 - dyna'r record cynta' o 5 LP.

O fewn dim roedd Sbardun wedi ymuno gyda ni ac aeth pethau'n rhemp, a gafon ni lot o sbort a dechre teithio - Cymru, yr Alban, Llydaw ac Iwerddon.

'Noson emosiynol' yn AberystwythFfynhonnell y llun, celfcalon
Disgrifiad o’r llun,

'Noson emosiynol' yn Aberystwyth

Erbyn heddiw mae caneuon fel Mi Ganaf Gân, Llanddwyn, Hi yw fy Ffrind, Ceidwad y Goleudy yn dal i gael eu clywed - a nifer wedi eu canu gan bobl fel Bryn Fôn, fersiynau ffantastig - ac mae'n braf i weld pobl eraill yn eu canu nhw.

Perfformio ers '74

Fydden i ddim wedi cael y llwyddiant heb ganeuon Ems - fe oedd yr ysbrydoliaeth i barhau, gydag aelodau yn gadael ac aelodau yn ymuno.

Ry'n ni mor falch o fedru dweud ein bod ni wedi canu yn ddi-dor am 50 mlynedd.

Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn 2024.

Pynciau cysylltiedig